Mae Timm van der Gugten wedi llofnodi cytundeb tair blynedd newydd gyda Chlwb Criced Morgannwg, tra bo Dan Douthwaite a’r Cymro Jamie McIlroy wedi cael cytundebau dwy flynedd newydd.
Ymunodd Timm van der Gugten, sy’n chwarae i’r Iseldiroedd, â’r sir yn 2016.
Ers hynny, mae e wedi cipio 268 o wicedi dosbarth cyntaf mewn 81 o gemau, gan gipio pum wiced mewn batiad 13 o weithiau.
Mae e hefyd wedi cipio 87 o wicedi mewn gemau ugain pelawd i’r sir.
Fe wnaeth e serennu gyda’r bêl newydd yng Nghwpan Undydd Metro Bank y tymor hwn, wrth i Forgannwg godi’r tlws am yr eildro mewn pedair blynedd, gyda 73% o’i belenni’n rhai di-sgôr, ac fe wnaeth e fatio’n gampus yn y rownd derfynol wrth helpu Morgannwg i sicrhau’r fuddugoliaeth dros Wlad yr Haf yn Trent Bridge.
Jamie McIlroy
Mae McIlroy o Lanfair-ym-Muallt wedi chwarae 17 o gemau dosbarth cyntaf i Forgannwg, gan gipio 28 o wicedi, gyda pherfformiad gorau o bum wiced am 34.
Mae e wedi cipio 32 o wicedi mewn 25 o gemau ugain pelawd, gyda pherfformiad gorau o bedair wiced am 36.
Roedd yn aelod allweddol o garfan undydd Morgannwg eleni mewn partneriaeth â Timm van der Gugten.
Cipiodd e 14 o wicedi mewn gemau undydd y tymor hwn, sy’n mynd â’r cyfanswm yn ystod ei yrfa i 21.
Bu’n chwarae i lwybrau Cymru cyn ymuno â Swydd Henffordd ym Mhencampwriaeth y Siroedd Llai ac yna Morgannwg yn 2019 drwy Gricedwyr Ifainc yr MCC.
Daeth ei gêm gyntaf mewn criced dosbarth cyntaf yn 2019, a’i gêm undydd gyntaf yn 2021.
Dywed ei fod e wrth ei fodd o gael llofnodi cytundeb newydd, ac “wedi cyffroi o gael cyfrannu at ragor o lwyddiant dros y blynyddoedd i ddod”.
Yn ôl Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, mae’n “rhan annatod” o’r garfan undydd ers rhai blynyddoedd, gan “chwarae rôl enfawr” wrth i Forgannwg gipio Cwpan Undydd Metro Bank.
“Mae ganddo fe lawer o botensial i ddatblygu o hyd,” meddai.
Dan Douthwaite
Bydd cytundeb newydd Dan Douthwaite yn ei gadw gyda Morgannwg tan ddiwedd tymor 2026.
Mae’r chwaraewr amryddawn 27 oed wedi chwarae mewn 36 o gemau dosbarth cyntaf i’r sir, gan sgorio 1,284 o rediadau – gan gynnwys ei sgôr gorau o 96 – ac mae e wedi taro chwe hanner canred.
Mae e wedi cipio 67 o wicedi yn y Bencampwriaeth, gyda ffigurau gorau o bedair wiced am 48.
Mewn 59 o gemau ugain pelawd, mae e wedi sgorio 626 o rediadau gyda chyfradd sgorio o 135.19, ac mae e wedi taro 42 ergyd chwech.
Mae e wedi cipio 56 o wicedi mewn gemau ugain pelawd, gyda ffigurau gorau o bedair am 23.
Roedd e hefyd yn aelod allweddol o garfan Morgannwg yng Nghwpan Undydd Metro Bank, gan orffen ar frig y rhestr ar gyfer wicedi yn y gystadleuaeth, gyda 19 i gyd.
Cipiodd e bedair am 25 yn erbyn Swydd Gaerloyw ar ddechrau’r gystadleuaeth, ac fe wnaeth e daro 55 heb fod allan yn erbyn Swydd Warwick yn y rownd gyn-derfynol.
Fe wnaeth e greu argraff ar Forgannwg wrth chwarae i dîm Prifysgolion Caerdydd, gan daro canred yn erbyn Sussex a chipio gwobr Chwaraewr Mwyaf Addawol 2019.
Chwaraeodd e i’r Manchester Originals yn y Can Pelen yn 2021, cyn ymuno â’r Tân Cymreig yn 2023.
Dywed ei fod e “wedi cyffroi’n fawr” o gael parhau â Morgannwg, sy’n “symud i’r cyfeiriad cywir”.
“Gallwn ni weld ein hunain yn gwthio am ddyrchafiad a chyrraedd rowndiau olaf criced pêl wen yn rheolaidd yn y tymhorau i ddod,” meddai.
Ychwanega ei fod yn teimlo’n gartrefol yng Nghymru, a’i fod yn edrych ymlaen at barhau i gyfrannu gyda’r bat a’r bêl.
Dywed Mark Wallace ei fod e’n “chwaraewr amryddawn hynod ddawnus sydd â nenfwd uchel i dyfu gyda’r bat a’r bêl”.
Un o’r hoelion wyth
“Fe fu Timm yn un o hoelion wyth ein hymosod bowlio ers bron i ddegawd bellach, ac mae e wedi tyfu’n un o’r bowlwyr pêl newydd mwyaf galluog ar y gylchdaith,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.
“Mae’n esiampl rhagorol ac yn hynod broffesiynol, ac mae e wedi parhau i geisio gwella’i gêm drwy gydol ei amser gyda’r clwb.
“Rydyn ni wrth ein boddau ei fod e’n aros gyda’r clwb yn y dyfodol hirdymor, ac yn edrych ymlaen at weld Timm yn perfformio ar y cae i’r clwb yn y tymhorau i ddod.”
‘Hapus iawn ac wedi cyffroi’
“Dw i’n hapus iawn o fod yn aros gyda Morgannwg am dair blynedd arall, ac wedi cyffroi’n fawr gyda’r cyfeiriad mae’r clwb yn symud iddo,” meddai Timm van der Gugten, sy’n enedigol o Awstralia.
“Mae e wedi bod yn dymor gwych, a dw i wir wedi mwynhau chwarae ym mhob fformat, gyda’r fuddugoliaeth yng Nghwpan Undydd Metro Bank yn golygu ein bod ni’n gorffen y tymor ar nodyn uchel.
“Mae Caerdydd wedi dod yn gartref i fy nheulu ifanc, ac rydyn ni wrth ein boddau’n byw yng Nghymru.”