Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Clive Everton, y sylwebydd snwcer, sydd wedi marw’n 87 oed.

Daw’r newyddion yn ystod yr wythnos pan fo’r chwaraewyr ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored Prydain yn cystadlu am Dlws Clive Everton.

Ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo mae Eirian Williams, y dyfarnwr o Sir Gaerfyrddin.

Dywed mai Clive Everton “fwy na thebyg, yw’r sylwebydd gorau gafodd snwcer erioed”.

“Ges i lawer sgwrs gyda fe yn ystod fy mlynyddoedd ar y gylchdaith,” meddai.

“Cydymdeimladau â’i deulu ar yr adeg anodd hon.”

Gyrfa

Bu Clive Everton yn gweithio i’r BBC am fwy na 30 o flynyddoedd ar ôl dechrau yn y 1970au.

Dechreuodd sylwebu ar snwcer i radio’r BBC yn 1972, pan enillodd Alex Higgins Bencampwriaeth y Byd am y tro cyntaf.

Daeth ei sylwebaeth gyntaf i’r teledu yn 1978.

Cyn hynny, bu’n chwaraewr amatur llwyddiannus, gan gyrraedd rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Biliards y Byd yn 1975 a 1977 – ar un adeg, roedd yn nawfed ar restr ddetholion y byd.

Roedd e hefyd yn chwaraewr tenis sirol i Swydd Gaerwrangon rhwng 1961 a 1974, ac roedd yn awdur llyfr Ann Jones, pencampwr Wimbledon yn 1969.

Fe hefyd oedd sylfaenydd y cylchgrawn Snooker Scene, a bu’n ei olygu am 51 o flynyddoedd.

Fe wnaeth e ohebu ar y byd tenis i The Times of India, rygbi i’r Sunday Telegraph, a phêl-droed i The Times.

Yn y byd sboncen, roedd yn hyfforddwr ar Jonah Barrington pan oedd yn rhif un yn y byd.