Fe fu athletwyr o amryw o gampau’n dathlu eu llwyddiant yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Paris yng Nghaerdydd neithiwr (nos Iau, Medi 26).
Dywed nifer o’r cystadleuwyr ei fod wedi bod yn brofiad “gwych” cael bod yn Paris, a bod y profiad hwnnw wedi eu llenwi nhw â “balchder”.
Bu 33 o fabolgampwyr yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd o Gymru, sef y nifer fwyaf erioed, tra bod 56 wedi mynd i’r Gemau Paralympaidd, ac wedi ennill 29 o fedalau.
Mae nifer ohonyn nhw eisoes yn edrych tuag at Gemau’r Gymanwlad 2026 yn Glasgow, lle bydd cyfle “pwysig” i gynrychioli Cymru, ac nid Tîm GB.
Llwyddiant i gymnastwraig ifanc o Gaerdydd
Y cystadleuydd ieuengaf o Gymru yn Nhîm GB yn y Gemau Olympaidd yn Paris oedd Ruby Evans o Gaerdydd, sy’n 17 oed ac yn cystadlu mewn gymnasteg.
“Roedd hi’n dda iawn cymryd rhan yn y gystadleuaeth,” meddai wrth golwg360.
“Ac roedd y profiad o gael bod yno yn un arbennig.”
Dywed ei bod hi’n “obeithiol” o allu ennill medal yn y Gemau Olympaidd nesaf yn Los Angeles yn 2028.
Mae hi hefyd yn cannmol sefydliad Gymnasteg Cymru am fod yn rhan o’i llwyddiant.
“Maen nhw wedi bod yn rhan fawr, ac mae yna lot o glybiau o gwmpas y wlad i helpu pobol,” meddai.
Dywed fod yn well ganddi gynrychioli Cymru na Phrydain, a’r gobaith yw mai dyna fydd hi’n ei wneud yng Ngemau’r Gymanwlad ymhen dwy flynedd.
Dathlu medal aur yn Llandysul
Un ddaru ennill medal aur yn ystod y Gemau Paralympaidd yw Steffan Lloyd o Landysul.
Bu’n cystadlu yn y treialon amser 1,000m fel peilot i James Ball, sydd â nam ar y golwg.
“O’n i mo’yn mynd ma’s ’na a gwneud y gorau y gallen ni ei wneud,” meddai wrth golwg360.
“A’r cynllun oedd mynd ac ennill aur, felly i ddod yn ôl gyda hi, mi oedd e’n job done.”
Dywed fod y profiad o gael cystadlu’n “wych”, a bod Paris wedi bod yn “westeiwyr da” i’r athletwyr.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen nawr at Glasgow yn 2026.”
Ychwanega fod yna “wahaniaeth bach” rhwng cystadlu dros Gymru a Thîm GB.
“Ni mo’yn ennill, a gwisgo’r cit Cymreig coch!” meddai.
“Fi’n credu bod e’r lefel nesaf, felly dw i’n edrych ymlaen at hynny nawr.”
Gemau’r Gymanwlad 2026 yn rhoi cyfle “pwysig” i gynrychioli Cymru
Dywed Brian Davies, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, ei fod y “falch iawn” y bydd Gemau’r Gymanwlad yn cael eu cynnal yn Glasgow ar gyfer 2026, ar ôl cyfnod o ansicrwydd ynghylch a fyddai’r Gemau yn digwydd o gwbl.
Mae Glasgow wedi camu i’r adwy ar ôl i dalaith Victoria yn Awstralia dynnu’n ôl o gynnal y Gemau am resymau ariannol.
Cynigiodd Arfordir Aur Awstralia gynnal y Gemau, ond fe wnaethon nhw hefyd dynnu’n ôl yn ddiweddarach am yr un rhesymau.
Roedd perygl, felly, y byddai’n rhaid gohirio’r Gemau tan 2027 neu na fyddai’r Gemau’n digwydd o gwbl cyn i Glasgow gynnig eu cynnal nhw.
“Mae’n bwysig, gan ei fod yn helpu rhai o’r athletwyr i baratoi at y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd,” meddai Brian Davies wrth golwg360 am bwysigrwydd Gemau’r Gymanwlad.
“Ond yn bwysicach na hynny ydy eu bod nhw’n gwisgo crys Cymru.
“[Mae Gemau’r Gymanwlad yn] gyfle i ddangos i’r byd fod yna genedl yma, ein bod ni’n falch, a bod iaith gyda ni, bod diwylliant gyda ni, a bod chwaraeon yn rhan bwysig o’r diwylliant hynny.”
Ychwanega na fydd targedau’n cael eu rhoi i’r cystadleuwyr o ran medalau, ond mae yna dargedau o ran strwythur ac ansawdd y paratoadau, meddai.
‘Hynod o falch’
Dywed Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, fod y genedl yn “hynod o falch” o’r athletwyr.
“Dw i’n hynod o falch o be’ maen nhw wedi’i gyflawni, a hynny ar ran y wlad,” meddai wrth golwg360.
“Maen nhw wedi bod yn paratoi am hyn ers blynyddoedd.”
Dywed fod llwyddiant yr athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd wedi “codi ysbryd” y genedl dros yr haf, a’i bod hi’n gobeithio y bydd eu llwyddiant yn ysbrydoli pobol eraill “i wneud y gorau o’u hunain”.