Mae cynllun i ehangu’r pwll nofio yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog wedi cael ei gymeradwyo gan gynllunwyr y sir.
Mae lle i gredu bod mwy na miliwn o blant a phobol ifanc wedi aros yn y gwersyll ers ei sefydlu yn 1932, gan greu llu o atgofion – o wledda ganol nos i’r cabanau pren a’r Lleian, a chwrdd â ffrindiau bore oes neu ddarpar wŷr neu wragedd.
Yn ddiweddar, cafodd y cais am estyniad i’r neuadd bresennol lle mae’r pwll nofio i gynnig cyfleusterau newid hygyrch, ac ystafell beiriannau fwy o faint, ei gyflwyno i Gyngor Sir Ceredigion gan Urdd Gobaith Cymru drwy law’r asiant, Spencer Pughe Associates, a hynny heb wrthwynebiad gan y cyngor cymuned lleol yn Llangrannog.
Dywedodd adroddiad swyddog cynllunio, oedd yn argymell cymeradwyo, y byddai estyniad i’r to fflat hefyd yn cynnwys 50 o baneli solar yn y to, gan ychwanegu y byddai’n “eistedd yn gyfforddus yn ei gyd-destun, ac mae’n gorwedd yn isel yn y tirlun”.
“Tra dylid osgoi toeon fflat yn gyffredinol, rydym yn cydnabod fod gan y safle ar y cyfan ystod eang o nodweddion a dulliau pensaernïol sydd wedi’u datblygu dros sawl degawd, ac felly fyddai’r dyluniad arfaethedig ddim yn ymddangos fel pe bai o’i le – ond yn hytrach, byddai’n cael ei adnabod fel ychwanegiad cyfoes,” meddai.
Cafodd y cais ei gymeradwyo gan gynllunwyr â rhai amodau.