Mae Keira Bevan wedi’i henwi’n gapten ar dîm rygbi menywod Cymru i herio Awstralia yn Ne Affrica ddydd Sadwrn (Medi 28).

Ond does dim lle yn y garfan i Sisilia Tuipulotu, sydd wedi bod yn cael problemau fisa.

Hon yw’r ail gêm rhwng y ddwy wlad yr wythnos hon, wrth i’r WXV2 barhau.

Ar ôl cael ei hepgor o’r fuddugoliaeth o 31-24 yng Nghasnewydd, bydd Hannah Jones, capten y garfan, ymhlith yr eilyddion ar gyfer y gêm hon.

Mae Carys Phillips, Natalia John ac Alisha Butchers-Joyce i gyd yn dychwelyd i’r pac, gyda Donna Rose yn cael ei henwi yn y rheng flaen, gyda Jenni Scoble ar y fainc.

Un newid sydd yn nhîm Awstralia, gydag Arabella McKenzie yn dychwelyd i safle’r maswr, gyda Faitala Moleka ar y fainc gyda Cecilia Smith.

Ar drothwy’r gêm, mae’r prif hyfforddwr Ioan Cunningham wedi canmol dyfnder y garfan, gydag Alex Callender wedi ildio’i lle wrth gael ei henwi ar y fainc.

Stadiwm Principality

Yn y cyfamser, daeth cadarnhad y bydd Cymru’n herio Lloegr yn Stadiwm Principality ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2025.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn y brifddinas ar Fawrth 29, ac mae Undeb Rygbi Cymru’n gobeithio denu’r dorf fwyaf erioed.

10,592 yw’r record ar hyn o bryd, pan heriodd Cymru yr Eidal ar ddiwedd y Chwe Gwlad eleni.

Bydd Cymru hefyd yn croesawu Iwerddon i Gasnewydd ar Ebrill 20.

Tîm Cymru: Jenny Hesketh; Jasmine Joyce, Carys Cox, Kerin Lake, Nel Metcalfe; Lleucu George, Keira Bevan (capten); Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Donna Rose, Natalia John, Georgia Evans, Alisha Butchers-Joyce, Kate Williams, Bethan Lewis

Eilyddion: Molly Reardon, Abbey Constable, Jenni Scoble, Abbie Fleming, Alex Callender, Sian Jones, Kayleigh Powell, Hannah Jones.