Capten tîm criced Sain Ffagan sy’n edrych yn ôl ar lwyddiant y clwb yn 2024, wrth iddyn nhw ennill tri thlws…


Roedd tymor 2024 yn un arbenning i Glwb Criced Sain Ffagan, wrth i ni adennill teitl Uwch Gynghrair De Cymru (SWPCL), ennill y gystadleuaeth T20, a chodi Cwpan Cenedlaethol Cymru i gwblhau trebl hanesyddol.

Yn aml, teitl y gynghrair yw’r anoddaf i’w ennill, gan ei fod yn gofyn am berfformiadau cyson dros ddeunaw penwythnos. Dechreuon ni’r tymor yn gryf, gan ennill ein pedair gêm gyntaf cyn colli’n sylweddol yn erbyn Brynbuga a fy hen dîm, Pontarddulais, lle cawsom ein bowlio allan am 44. Yn ffodus, dyma oedd ein colledion olaf o’r tymor, er clod i Bontarddulais, a gadwodd y pwysau arnom drwy gydol yr tymor.

Gorffennon ni’r gynghrair ar ôl chwarae 17 gêm, ennill 15 a cholli dim ond dwy. Roedd ein huned fowlio’n eithriadol, gan gyfyngu’r gwrthwynebwyr i lai na 120 mewn wyth gêm. Y perfformiwr nodedig oedd Callum Nicholls, sy’n 20 oed ac a oedd wedi sgorio 827 o rediadau yn y gynghrair, gan gynnwys tri chanred a phedwar hanner canred. Llwyddodd i ragori ar y sgoriwr rhediadau uchaf nesaf, Jeremy Lawlor, o 290 rhediad, gan chwarae rhan enfawr yn ein llwyddiant.

Gemau ugain pelawd

Dechreuodd ein hymgyrch T20 gyda buddugoliaeth mewn gêm gafodd ei heffeithio gan y glaw dros Gas-gwent, gyda 137 gwych gan Steve Reingold. Ar ôl pàs i’r rownd nesaf, llwyddon ni i guro Brynbuga o saith wiced i gyrraedd diwrnod y rowndiau terfynol yng Ngerddi Sophia.

Unwaith eto, disgleiriodd Reingold yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Pen-y-bont, gan sgorio 130 heb fod allan, oedd yn anhygoel. Cefnogodd y bowlwyr ymdrechion y batwyr, dan arweiniad Ollie Sherwood (pedair wiced) a Zac Williams (tair wiced), i sicrhau ein lle yn y rownd derfynol yn erbyn Abertawe.

Yn y rownd derfynol, dewison ni fatio’n gyntaf a gosod cyfanswm cystadleuol o 156, gyda Callum Nicholls yn angori’r batiad gyda 80 heb fod allan. Rhoddodd ein huned fowlio bwysau ar y gwrthwynebwyr unwaith eto, gan gipio wicedi yn aml i wthio’r gyfradd rediadau ofynnol i fyny. Yn anffodus, bu glaw a thywyllwch yn ddiweddarach, ond cafon ni ein cyhoeddi’n enillwyr o 34 rhediad ar sail dull DLS, gan godi tlws y T20.

Cwpan Cymru

Mae Cwpan Cymru wedi bod yn gystadleuaeth heriol yn y gorffennol, yn aml oherwydd argaeledd chwaraewyr ac ymrwymiadau eraill wrth gynrychioli Cymru. Fodd bynnag, y tymor hwn, perfformiodd ein bowlwyr yn gyson, gan gyfyngu’r gwrthwynebwyr i lai na 100 mewn pump allan o’r saith gêm.

Daeth un o’r perfformiadau mwyaf trawiadol yn rownd yr wyth olaf yn erbyn Brymbo, lle gwnaeth Ollie Sherwood gipio saith wiced am 19, a bowlion ni nhw allan am ddim ond 58. Dilynwyd hynny gyda buddugoliaeth swmpus o ddeg wiced yn y rownd gyn-derfynol, gan gwrso 140 yn llwyddiannus yn erbyn Pentyrch i gadw ein gobeithion o ennill y trebl yn fyw.

Cafodd y rownd derfynol yn erbyn Casnewydd ei chynnal ym Mrynbuga. Ar ôl galw’n anghywir, fe wnaethon ni gyfyngu Casnewydd i 161. Fe wnaeth glaw cyson gwtogi’r gêm i bymtheg pelawd, gan adael targed o 78 i ni. Fe wnaeth partneriaeth gadarn rhwng Steve Reingold a Jeremy Lawlor ein harwain ni at y targed gyda 16 pelen yn weddill, gan sicrhau Cwpan Cymru a chwblhau’r trebl hanesyddol.

Mae sicrhau’r trebl yn gamp rydym yn hynod falch ohoni – efallai’n ddigynsail i unrhyw glwb! Cafodd ein llwyddiant ei adeiladu ar ymdrech y tîm cyfan, un gafodd ei yrru gan uned fowlio oedd yn cyfyngu’r gwrthwynebwyr yn gyson i gyfanswm oedd o fewn cyrraedd, gyda pherfformiadau cyson gan chwaraewyr profiadol, a chyfraniadau gan ddoniau ifainc sydd wedi datblygu trwy adran iau’r clwb.