Mae Clwb Criced Morgannwg wedi denu Ned Leonard o Wlad yr Haf.

Yn chwaraewr amryddawn, bowliwr cyflym yn bennaf yw’r chwaraewr 22 oed.

Fe fu’n chwarae ar fenthyg i’r sir Gymreig ym mis Awst, yn dilyn ymgyrch lwyddiannus gyda Gwlad yr Haf, gwrthwynebwyr Morgannwg yn rownd derfynol Cwpan Metro Bank, wrth i’r sir Gymreig godi’r tlws am yr eildro mewn pedwar tymor.

Chwaraeodd Leonard i Forgannwg yn y Bencampwriaeth hefyd ar ddiwedd y tymor.

Ymunodd ag Academi Gwlad yr Haf yn 2018, cyn llofnodi ei gytundeb proffesiynol cyntaf yn 2020, pan ddaeth ei gap cyntaf dros dîm Lloegr dan 19.

Chwaraeodd e yn ei gemau dosbarth cyntaf a Rhestr A cyntaf yn 2021.

Dywed Morgannwg y bydd e’n “un i’w wylio” y tymor nesaf yn sgil ei gyflymdra a’i allu i wyro’r bêl yn yr awyr ac oddi ar y llain.

‘Chwaraewr ifanc dawnus’

“Dw i wedi cyffroi’n fawr o gael ymuno â Morgannwg!” meddai Ned Leonard.

“Dw i wedi bod wrth fy modd yn ystod fy nghyfnod ar ddiwedd tymor Pencampwriaeth y Siroedd, felly dw i wir yn edrych ymlaen at ymuno â’r tîm ym mis Tachwedd, datblygu fy ngêm a helpu i adeiladu ar y llwyddiant gafodd Morgannwg eleni.”

Yn ôl Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, mae Ned Leonard yn “chwaraewr ifanc dawnus â chryn botensial i gael gyrfa hir a llwyddiannus”.

“Rydyn ni wedi bod yn dilyn ei gynnydd ers sbel, ac fe wnaeth e greu argraff ar fenthyg ar ddiwedd y tymor,” meddai.

“Rydyn ni wrth ein boddau o’i gael e’n ymuno â ni’n llawn amser yng Nghymru.”