Bydd seremoni arbennig yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Fagan heddiw (dydd Gwener, Hydref 4), i gyflwyno capiau i holl chwaraewyr tîm pêl-droed merched Cymru rhwng 1973 a 1993.

Roedd 94 o fenywod wedi cynrychioli eu gwlad yn ystod y cyfnod hwnnw, ond doedden nhw ddim wedi derbyn capiau gan nad oedd y gemau dan ofal Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar y pryd.

Mae’r seremoni wedi’i threfnu ar y cyd rhwng y Gymdeithas Bêl-droed ac S4C, ac mae’n cyd-fynd â rhaglen ddogfen Yr Hawl i Chwarae, sy’n adrodd hanes pêl-droed menywod yng Nghymru ac a fydd ar gael i’w gwylio ar blatfformau S4C ar Hydref 22.

Yn ogystal â’r seremoni fawr, bydd cyfle i weld rhannau o’r rhaglen ddogfen cyn i’r cyflwynydd chwaraeon Catrin Heledd gynnal dwy sgwrs banel.

Bydd y panel cyntaf yn edrych yn ôl ar yr hanes gyda’r cyn-chwaraewr Michele Adams; Lowri Roberts, cyn-Bennaeth Pêl-droed Merched a Menywod Cymdeithas Bêl-droed Cymru; a Ffion Eluned Owen, cyflwynydd y rhaglen ddogfen Yr Hawl i Chwarae.

Bydd yr ail banel yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod, yng nghwmni Nia Davies, prif hyfforddwr tîm dan 19 Cymru; Bethan Woolley, Uwch Rheolwr Gêm Llawr Gwlad Menywod a Merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru; a’r Athro Laura McAllister, Is-Lywydd UEFA a chyn-chwaraewr Cymru.

Bydd y sgwrs hon hefyd yn edrych ar waith y Gymdeithas ar eu strategaeth bêl-droed i fenywod a merched, Ein Cymru: Amdani Hi.

Bydd y noson yn cael ei darlledu’n fyw ar-lein ar gyfryngau cymdeithasol Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’u gwefan ffrydio, RedWall+.

‘Noson arbennig iawn’

Dywed Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ei fod yn disgwyl “noson arbennig iawn” yn Sain Ffagan.

“Ar ôl gweithio’n galed dros y deunaw mis diwethaf yn casglu manylion cyswllt am y cyn-chwaraewyr o’r 70au a’r 80au, bydd hon yn noson arbennig iawn i ddathlu’r menywod wnaeth ddechrau stori ein tîm cenedlaethol,” meddai.

“Bydd dros 40 o gyn-chwaraewyr yn derbyn eu capiau fel rhan o’r dathliadau, ac i’r rhai sydd yn methu bod yno, bydd capiau yn cael eu danfon mor bell â Chanada ac Awstralia, lle mae rhai o’n cyn-chwaraewyr bellach yn byw.”

Cefnogi twf gêm y menywod a’r merched

“Mae’n wych i weld datblygiad gêm y menywod yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym ni yn S4C yn falch iawn i gefnogi’r twf hynny drwy ddangos mwy o gemau byw bob tymor o’r Genero Adran Premier,” meddai Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys dros dro S4C.

“Mae’r rhaglen ddogfen yma hefyd yn bwysig, er mwyn cydnabod cyfraniad y menywod ysbrydoledig sydd wedi gosod sylfaen i lwyddiant a phoblogrwydd y gamp heddiw.”

Dywedodd Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbenigol S4C:

Yn ôl Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbenigol S4C, “mae hanes pêl-droed menywod yn ran o hanes Cymru sydd heb ei gofnodi”.

“Dw i wrth fy modd fod Yr Hawl i Chwarae am gyflwyno’r hanes yma am y tro cyntaf,” meddai.

“Ychydig sy’n gwybod fod y gêm wedi’i gwahardd am 50 mlynedd, a bod Cymru hyd yn oed wedi curo Lloegr unwaith!”

Gyda chymorth y cyn-chwaraewr Michele Adams a’r hanesydd John Carrier, ymysg eraill, mae 94 o chwaraewyr wedi’u hadnabod o’r cyfnod hwnnw, ac mae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru fanylion cyswllt ar gyfer 70 o’r chwaraewyr hyn.

Nawr, maen nhw’n lansio galwad gyhoeddus i geisio dod o hyd i fanylion cyswllt y 24 cyn-chwaraewr sy’n weddill – neu eu teuluoedd – i helpu i ddathlu eu llwyddiannau.

Os oes gennych fanylion cyswllt ar gyfer chwaraewr neu aelod o deulu rhai ar y rhestr isod, cysylltwch â press@faw.cymru.

Ar gyfer y rhai sy’n methu bod yno ar y noson, bydd y Gymdeithas yn darparu’r capiau trwy’r post.

Rhestr o chwaraewyr sydd heb fanylion:

Pat Griffiths, Linda James, Ann Rice, Julie Yale, June Houldey, Barbara Jones, Christine Ross, Karen Atkins, Jean McCarthy, Wendy Wood, Jacqueline Butt, Nikki Groves, Suzy Faul, Jill Anson, Chris Coyle, Gill Bellis, Paula Cleeve, Val Williams, G Day, Delyth Wyn Jones, Jackie Weir (nee Jones), Annette Jones, T Heaton, Caroline Brunt.