Dywed Matthew Maynard, un o fawrion Clwb Criced Morgannwg, ei bod hi’n “fraint ac anrhydedd” derbyn Gwobr Cyfraniad Rhagorol gan Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol yn gydnabyddiaeth am ei waith gyda’r elusen sefydlodd e er cof am ei fab Tom.
Aeth ati i sefydlu Ymddiriedolaeth Tom Maynard ar ôl i gyn-gricedwr Morgannwg, oedd yn chwarae i Surrey ar y pryd, farw’n 23 oed yn 2012.
Roedd y dorf ar eu traed pan gafodd ei enw ei gyhoeddi yn y noson wobrwyo yn nwyrain Llundain.
Ymddiriedolaeth Tom Maynard
Ers ei sefydlu, mae Ymddiriedolaeth Tom Maynard wedi helpu pobol ddifreintiedig sydd wedi mentro i’r byd criced ac i gampau eraill.
Fe fu’r Ymddiriedolaeth yn noddi ‘Rookie Camp’ Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol er mwyn codi ymwybyddiaeth o rai o anfanteision y byd chwaraeon, gan roi addysg a rhaglenni sgiliau i bobol ifanc yn y byd chwaraeon proffesiynol.
Roedd yr Ymddiriedolaeth wedi cefnogi grantiau a phrosiectau gwerth £500,000 hyd at y llynedd, yn ogystal â threfnu teithiau Academi Tom Maynard i helpu cricedwyr ifainc rhwng 2014 a 2018 – yn eu plith mae Ben Duckett, sydd bellach wedi cynrychioli Lloegr, a Jamie Porter, oedd wedi cipio mwy o wicedi yn Adran Gynta’r Bencampwriaeth eleni na’r un chwaraewr arall.
Cefnogaeth ymarferol
Yn dilyn marwolaeth Tom Maynard, cafodd ei deulu gefnogaeth ymarferol a chwnsela, ac fe fu Matthew Maynard yn annog chwaraewyr eraill i fanteisio ar y gwasanaeth dros y blynyddoedd.
Yn gynharach eleni, aeth ati i gerdded o John O’Groats yn yr Alban i Land’s End yng Nghernyw, gan godi mwy na £23,000 at Ymddiriedolaeth y Cricedwyr a Help for Heroes.
Derbyniodd Matthew Maynard y wobr gan Daryl Mitchell, Prif Weithredwr dros dro Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol, gerbron torf o 500 o bobol.
“Roedd hi’n sioc enfawr,” meddai Matthew Maynard.
“Mae’n dlws anhygoel i’w ennill, ac mae cael cydnabyddiaeth gan sefydliad ofalodd amdana’ i ar ôl fy nyddiau’n chwarae ac wedyn ar ôl colli Tom hefyd yn wych.
“Wnes i ddim sylwi ar y dorf ar eu traed oherwydd roedd gen i ddagrau yn fy llygaid ar ôl gweld fy merch yn y fideo [ar y sgrîn fawr].
“Mae’n fraint ac yn anrhydedd anferth cael derbyn hwn.
“Mae’r deuddeg mlynedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i’r teulu, ond roedd sefydlu Ymddiriedolaeth Tom Maynard yn ffordd o gadw enw Tom yn fyw, a helpu eraill i wireddu eu breuddwydion o gael chwarae mewn chwaraeon proffesiynol.
“Wnaeth o ein helpu ni fel teulu i gael rhywbeth i’w wneud.
“Ges i gwnsela arbennig gan Ymddiriedolaeth y Cricedwyr, oedd yn bwysig dros ben i mi a fy nheulu.
“Dydych chi byth yn dod dros rywbeth fel hyn, ond yn dysgu byw efo fo; mae hi wedi bod yn siwrne anodd.
“Dw i’n credu y byddai Tom yn andros o falch, a dw i’n ddiolchgar iawn i’r PCA am y wobr hon.”
‘Ysbrydoledig iawn’
Roedd Ian Thomas yn un o gyd-chwaraewyr Matthew Maynard, ac mae e bellach yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Aelodau Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol.
“Ers y drasiedi ddigwyddodd, fyddai llawer o bobol ddim yn gallu ymdopi ac yn cau eu hunain i ffwrdd, ond nid Matt,” meddai.
“Mae dewis sefydlu Ymddiriedolaeth Tom Maynard a rhoi rhaglen at ei gilydd sy’n cefnogi’r gamp ac unigolion yn ysbrydoledig iawn.
“Mae gwaddol Tom yn y gamp yn rhywbeth y dylai Matt a’r teulu fod yn falch ohoni.
“Roedd Wellyman Walking yn anhygoel, ac mae’n dangos cryfder meddyliol.
“Llongyfarchiadau Matt, a diolch am bopeth rwyt ti wedi’i wneud ar ran y PCA ac Ymddiriedolaeth y Cricedwyr.”