Colli o 2-0 oedd hanes tîm pêl-droed y Seintiau Newydd yn erbyn Fiorentina yn eu gêm grŵp Cyngres Europa gyntaf erioed, yn Stadio Artemio Franchi neithiwr (nos Iau, Hydref 3).

Roedd hyn er gwaethaf ymdrech arwrol, wrth i’r tîm Eidalaidd orfod aros bron i 65 munud am eu gôl gyntaf.

Daeth goliau’r tîm, sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol y ddau dymor diwethaf, gan Yacine Adli a Moise Kean.

Hanner cyntaf

Y tîm Cymreig gafodd y cyfle cyntaf, a hynny yn y funud gyntaf wrth i Adam Wilson ganfod ei ffordd i mewn i’r cwrt cosbi cyn i’r amddiffyn glirio’r bêl.

Bu’n rhaid i bencampwyr JD Premier amddiffyn am gyfnodau helaeth yn yr hanner cyntaf wedyn.

Taniodd Jonathan Ikoné ergyd heibio’r postyn o ymyl y cwrt chwech ar ôl pum munud, cyn i Connor Roberts yn y gôl wneud arbediad campus chwe munud yn ddiweddarach i atal Christian Kouamé rhag sgorio.

Bu’n rhaid iddyn nhw ddibynnu ar y golwr unwaith eto ar ôl 25 munud, wrth iddo fe arbed ergyd gan Lucas Beltrán o ymyl y cwrt cosbi.

Parhaodd Kouamé i fod yn fygythiad wrth fethu ag ergyd at y gôl ar ôl 31 munud, cyn i Fiorentina daro’r postyn ar drothwy hanner amser.

Ail hanner

Gyda’r gêm yn gyfartal ddi-sgôr ar yr egwyl, dechreuodd y Seintiau Newydd yr ail hanner yn gryf, wrth i Danny Davies amddiffyn yn gadarn yn y cwrt chwech ar ôl pum munud, cyn i Kouamé benio’r bêl heibio’r postyn ym mhen draw’r cae o ganol y cwrt cosbi.

Ond llwyddodd Fiorentina i wthio a rhoi pwysau ar eu gwrthwynebwyr, a daeth y gôl agoriadol i Adli ar ôl 64 munud wrth iddo fe danio ergyd â’i droed chwith i gornel bella’r rhwyd.

Daeth ail gôl yn fuan wedyn, wrth i’r eilydd Kean rwydo ar ôl i’r bêl adlamu i’w gyfeiriad.

Gallai’r Eidalwyr fod wedi sgorio trydedd gôl oni bai am arbediad campus Roberts i atal Ikoné.

Daeth cyfle arall i’r Seintiau Newydd ddwy funud yn ddiweddarach, wrth i’r eilydd Declan McManus fethu â manteisio ar groesiad Josh Daniels o’r ochr dde.

Bu bron i’r Eidalwyr sgorio’u trydedd ar ôl 78 munud, wrth i groesiad o’r dde ganfod Kean wrth y postyn pellaf, ond arhosodd Roberts yn gadarn yn y gôl.

Bydd y Seintiau Newydd yn herio Astana o Kazakhstan ar Hydref 24, ond cyn hynny mae ganddyn nhw gêm yn erbyn Llansawel ddydd Sul (Hydref 7, 2.30yp).