Mae Rhian Wilkinson, prif hyfforddwr tîm pêl-droed merched Cymru, wedi penodi Angharad James yn gapten ar gyfer ymgyrch ragbrofol Ewro 2025.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad Sophie Ingle i gamu o’r neilltu.

Enillodd Angharad James ei chap cyntaf dros Gymru yn erbyn yr Alban fis Hydref 2011, ac mae hi bellach wedi ennill 122 o gapiau dros ei gwlad.

Yr amddiffynnwr Hayley Ladd a’r chwaraewr canol cae Ceri Holland sydd wedi’u dewis yn is-gapteiniaid.

‘Yr anrhydedd fwyaf’

Yn ôl Angharad James, mae cael ei phenodi’n gapten yn “foment hynod falch” iddi hi a’i theulu, ac yr “anrhydedd fwyaf y gall chwaraewr ei chael”.

Mae hi hefyd wedi talu teyrnged i’w rhagflaenydd.

“Mae Sophie Ingle yn arweinydd anhygoel, a dw i wedi dysgu cymaint o’i hymroddiad a’i harweinyddiaeth fel capten dros y naw mlynedd diwethaf,” meddai.

“Bydd ei hetifeddiaeth yn cael ei theimlo am flynyddoedd i ddod, ac mae’n anrhydedd fawr dilyn yn ôl ei thraed hi a’r capteiniaid ddaeth o’i blaen hi.

“Dw i wedi siarad am y balchder o fod yn gapten pan dw i wedi cael y cyfleoedd o’r blaen, ond rydyn ni’n ffodus i gael cymaint o arweinwyr yn y grŵp hwn.

“Mae cael arweinwyr ar lefelau gwahanol yn y garfan yn hanfodol a, gyda’n gilydd, byddwn yn gwthio tuag at ein nod cyfunol o gyrraedd twrnament mawr am y tro cyntaf.”

‘Perfformiwr cyson’

Dywed Rhian Wilkinson fod Angharad James wedi bod yn “berfformiwr cyson” ar hyd y blynyddoedd, a bod ei hangerdd a’i hymrwymiad i’w gwlad yn rhywbeth amlwg iawn.

“Mae hi bob amser yn mynnu ac yn cynnig cyngor i’w chyd-chwaraewyr pan fydd hi’n camu ar y cae,” meddai.

“Rwy’n caru’r ffordd mae hi’n cofleidio’r chwaraewyr iau yn y garfan gyda’i harweinyddiaeth hefyd, sy’n bwysig ar gyfer dyfodol y tîm a’r cyfeiriad rydyn ni’n mynd iddo.

“Mae Angharad yn deall y cyfrifoldeb sy’n dod gyda bod yn gapten, ar y cae ac oddi arno, ac rwy’n gwybod bod hon yn foment o falchder iddi hi a’i theulu.”

Does ganddi hi ddim amheuaeth y bydd Angharad James yn “arwain y tîm mor drawiadol” â Sophie Ingle a chyn-gapteiniaid eraill Cymru, meddai.

Rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle Ewro 2025 yn erbyn Slofacia ar Hydref 29 fydd y cyfle nesaf i Angharad James arwain ei gwlad.