Mae rhedwr wedi marw ar ôl cwblhau Hanner Marathon Caerdydd dros y penwythnos.
Cafodd y rhedwr driniaeth ar y llinell derfyn cyn mynd i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae Run 4 Wales, sy’n trefnu’r hanner marathon, wedi cydymdeimlo â theulu’r rhedwr, gan ddweud ei bod yn “drasiedi ofnadwy”.
Y ras eleni oedd y fwyaf erioed, gyda chyfanswm o 29,000 o redwyr wedi cofrestru i gymryd rhan.
Bu farw tri o bobol eraill wrth gwblhau’r ras dros y blynyddoedd.
Bu farw Ben McDonald, 25, a Dean Fletcher, 32, yn 2018 ar ôl iddyn nhw gael ataliad ar y galon.
Bu farw Nicholas Beckley, 35, yn 2019.