Wedi’i leoli o amgylch lleoliadau mwyaf adnabyddus Caerdydd, mae’r hanner marathon yn ddigwyddiad sy’n adnabyddus am ei awyrgylch sydd yn deffro strydoedd y brifddinas. Cafodd ei gynnal ddoe (dydd Sul, Hydref 6), gyda thros 29,000 o bobol wedi cofrestru i redeg 13.1 milltir o gwmpas y ddinas – y nifer fwyaf erioed.

Mae’r ras wedi tyfu i fod yn un o’r rasys mwyaf yn y Deyrnas Unedig, a bellach mae’n cael ei gydnabod fel un o’r prif ddigwyddiadau yng nghalendr rhedeg gwledydd Prydain. ‘Nôl yn 2022, datgelwyd bod Hanner Marathon Caerdydd wedi denu mwy o redwyr o dramor nag erioed o’r blaen.

Patrick Moisin oedd enillydd ras y dynion eleni, gan gwblhau’r her o fewn 1:00:01, gyda Miriam Chebet yn ennill ras y merched gydag amser o 1:06:43. Callum Hall oedd enillydd y gystadleuaeth cadair olwyn, gydag amser o 55:05. Ei wraig, Jade Hall, ddaeth yn ail gan gwblhau’r her mewn 57:57.

Manteision economaidd

Mae’r digwyddiad yn hwb aruthrol i economi’r brifddinas yn flynyddol, gyda nifer yr ymwelwyr yn rhoi cefnogaeth wych i fusnesau lleol. Drwy gydol y penwythnos, mae’r ddinas yn brysurach nag arfer, gyda mwy o ymwelwyr yn treulio amser mewn bwytai, bariau a chaffis hyd a lled y ddinas.

Mae gwaith ymchwil Prifysgol Caerdydd a Run 4 Wales yn 2018 yn dangos bod rhedwyr yn gwario £2.3m yn y ddinas. Roedd yr ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o wariant y rhedwyr yng Nghaerdydd ei hun, a bod rhywfaint o wariant ar lety a theithio mewn mannau eraill yng Nghymru a gwledydd Prydain.

Yn flynyddol, mae rhan helaeth o’r cyfranogwyr yn codi arian at amrywiaeth o elusennau gwahanol, a phawb â’u rhesymau personol eu hunain dros wneud hynny.

Ac mae’r profiad o gael bod yn rhan o’r dorf yn pwysleisio pa mor arbennig yw’r digwyddiad.

Roedd gweld miloedd yn y torfeydd, yn annog y cyfranogwyr, yn ennyn emosiwn ac yn pwysleisio oriau o waith caled a dyfalbarhad y rhedwyr. Ar draws y strydoedd, o ben draw’r Bae i Lyn y Rhath, mae ffrindiau a theuluoedd yn dosbarthu melysion ac yn chwifio posteri ar ôl treulio oriau yn eu gwneud. Mae cannoedd o wirfoddolwyr yn cadw llygad allan am ddiogelwch y cyfranogwyr ac adloniant byw yn hwb i’r rhedwyr.

Y da a’r drwg

Ond, fel nifer o ddigwyddiadau sy’n denu ymwelwyr i Gaerdydd, roedd nifer fawr o ffyrdd wedi’u cau er mwyn diogelu’r cyfranogwyr, gan gynnwys rhai o’r prif ffyrdd sy’n arwain drwy ganol y ddinas.

Roedd nifer o’r lonydd ar gau nes hanner nos wedi’r ras, a rhai ar gau nes y bore canlynol. Roedd Heol y Coleg ar gau o 5yb ddydd Mercher, Hydref 2, hyd at hanner nos ddydd Llun, Hydref 7, yn sgíl y digwyddiad.

Ar ddiwrnod y ras, roedd Heol y Gogledd i’r de o’r cyffordd â Boulevard de Nantes i gyffordd yr A4161, Ffordd y Brenin o gyffordd yr A4161 i gyffordd Heol y Dug a Stryd y Castell, a sawl ffordd arall, ar gau rhwng 4:00yb a 12:00yp.

Yn aml, gall y tarfu hyn ar draffig arwain at oedi maith ac anawsterau trafeilio i’r rhai sy’n byw yn lleol.

Roedd nifer o wasanaethau rheilffyrdd hefyd wedi’u canslo ar ddiwrnod yr hanner marathon, ac felly roedd hi’n anodd iawn i’r rhai oedd eisiau trafeilio i mewn ac allan o’r ddinas.

Er bod yr hanner marathon yn dod â’i anhyfleustra, gan amharu ar drefn trigolion lleol, mae’n ddigwyddiad sy’n sicr yn rhoi hwb sylweddol i economi ac i ysbryd prifddinas Cymru yn flynyddol, ac felly mae pobol yn tueddu i roi’r trafferthion o’r neilltu i’w ddathlu.