Mae cangen dwyrain Cymru’r cwmni datblygwyr tai Persimmon Homes wedi rhoi £2,000 i Glwb Criced Sain Ffagan fel rhan o’r fenter Pencampwyr Cymunedol.
Cafodd y fenter ei sefydlu yn 2015 i helpu amryw o sefydliadau ym mhob cwr o wledydd Prydain, ac mae’r cynllun yn nwyrain Cymru’n sicrhau gwerth £24,000 o gyllid bob blwyddyn i sefydliadau ac achosion cymunedol.
Mae tai Persimmon yn ardal Sain Ffagan yn cael eu gwerthu am brisiau rhwng £189,995 a £439,995.
Daw’r rhodd ar ddiwedd tymor llwyddiannus i’r clwb criced ar gyrion Caerdydd, ar ôl iddyn nhw ennill trebl hanesyddol – Uwch Gynghrair De Cymru, y cwpan ugain pelawd a Chwpan Cymru.
Bydd yr arian yn helpu’r clwb i gynnal eu rhaglen griced, sy’n cynnwys pedwar tîm i oedolion, yn ogystal ag adrannau iau i fechgyn a merched o bob oed.
Mae gan y clwb adran iau lwyddiannus, gyda’u tîm dan 15 wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan yr ECB (Bwrdd Criced Cymru a Lloegr) eleni.
‘Dibynnu’n helaeth ar haelioni pobol eraill’
“Ar ran Clwb Criced Sain Ffagan, hoffwn estyn ein diolch diffuant i Persimmon Homes Dwyrain Cymru am eu cefnogaeth hael,” meddai Anthony Blades, cadeirydd Clwb Criced Sain Ffagan.
“Mae’n wych gweld cwmni fel Persimmon yn cymryd rôl weithredol wrth gefnogi’r gymuned leol, yn enwedig gan fod eu datblygiad ychydig funudau o’n cae ni.
“Fel clwb amatur, rydyn ni’n dibynnu’n helaeth ar haelioni pobol eraill.
“Ar ôl tymor hanesyddol i’r Stags, rydyn ni’n wirioneddol ddiolchgar i Persimmon am eu cefnogaeth amhrisiadwy.”
‘Clwb wrth galon y gymuned leol’
“Rydyn ni wrth ein boddau o gael cefnogi Clwb Criced Sain Ffagan, clwb sydd wrth galon y gymuned leol, ac sy’n darparu chwaraeon o safon i dimau oedolion ac ieuenctid, yn fechgyn a merched pump oed a hŷn,” meddai Vicky Williams, Cyfarwyddwr Gwerthiant Persimmon Homes yn nwyrain Cymru.
“Mae ein menter Pencampwyr Cymunedol yn parhau i adeiladu ar ein hymrwymiad i wella’r cymunedau lleol lle rydyn ni’n codi datblygiadau.
“Bydd ein rhodd yn helpu i gefnogi datblygiad talent chwaraeon lleol yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.”