Mae rheolwr tîm pêl-droed Aberystwyth wedi ymddiswyddo.

Daw ymddiswyddiad Anthony Williams ar ôl y golled o 3-0 yn erbyn Cei Connah yn eu gêm ddiwethaf nos Wener (Hydref 4).

Cafodd ei benodi fis Mai 2022, ar ôl i’r clwb osgoi’r gwymp o drwch blewyn y tymor cynt.

Dywed y clwb fod ei arweiniad yn allweddol wrth i’r clwb oroesi yn dilyn buddugoliaeth o 3-2 dros Gaernarfon ar ddiwrnod ola’r tymor.

Fe wnaethon nhw oroesi ar ddiwrnod ola’r tymor diwethaf unwaith eto, gyda buddugoliaeth o 3-0 dros Bontypridd.

Yn ogystal â bod yn rheolwr, roedd Anthony Williams hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr Academi’r clwb, a bu’n rheoli tîm y menywod am gyfnod y tymor diwethaf hefyd.

‘Tristwch mawr’

“Gyda thristwch mawr rydym wedi derbyn ymddiswyddiad ‘Taff’,” meddai Donald Kane, cadeirydd Clwb Pêl-droed Aberystwyth.

“Yn anffodus, mae cyfres o anafiadau dros yr wythnosau diwethaf wedi tarfu ar ein cynnydd.

“Nid yn unig roedd Anthony yn rheolwr gwych, ond yn berson hefyd roedd pawb wedi dod i’w barchu a’i edmygu, sy’n gwneud y penderfyniad hwn yn anoddach fyth.

“Rydym yn gobeithio’i weld e’n dychwelyd i bêl-droed yn y dyfodol, ac estynnwn ein dymuniadau gorau iddo fe.

“Bydd e bob amser yn ffrind i Glwb Pêl-droed Aberystwyth.”

‘Braint’

“Dw i wedi mwynhau bob eiliad o’m hamser yn Aberystwyth, ac fe fu’n fraint cael gweithio gyda grŵp mor angerddol o chwaraewyr, staff a chefnogwyr,” meddai Anthony Williams.

“Er gwaetha’r heriau rydyn ni wedi’u hwynebu, dw i’n eithriadol o falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd.

“Yn anffodus, mae’r rhediad diweddar o anafiadau wedi ei gwneud hi’n anodd cynnal ein momentwm, a dw i’n teimlo fy mod i’n camu o’r neilltu ar yr adeg hon er lles y clwb.

“Dw i’n dymuno pob llwyddiant i’r clwb wrth symud ymlaen, a bydda i’n parhau’n gefnogwr y ‘Black and Greens’.”