Mae Paul Watson, Cyfarwyddwr Chwaraeon Clwb Pêl-droed Abertawe, wedi gadael ei swydd.

Daw hyn ar ôl iddo fe fod dan y lach yn sgil polisi recriwtio’r clwb yn ddiweddar.

Cafodd ei benodi i’r swydd yn ystod haf 2023, ar ôl gwneud swydd debyg gyda Luton.

Mae Andy Coleman, cadeirydd yr Elyrch, wedi diolch iddo am ei waith, wrth i’r clwb ddweud y byddan nhw’n rhoi diweddariad am y sefyllfa maes o law.

Bydd aelodau eraill o’r adran bêl-droed yn gyfrifol am ei ddyletswyddau yn y cyfamser.

Cyfnod cythryblus

Ymunodd Paul Watson ag Abertawe bedwar diwrnod ar ôl i Michael Duff gael ei benodi’n rheolwr i olynu Russell Martin, gafodd ei benodi gan Southampton.

Mae lle i gredu ei fod e’n allweddol yn y penodiad siomedig hwnnw, gyda Duff wedi’i ddiswyddo erbyn mis Rhagfyr ar ôl pum buddugoliaeth mewn 19 o gemau.

Cafodd Luke Williams ei benodi i’r swydd ym mis Ionawr, ond cafodd Watson ei feirniadu am ddiffyg gweithgarwch yn ystod y ffenest drosglwyddo yr haf blaenorol, gyda nifer o’r chwaraewyr gafodd eu denu bellach wedi gadael y clwb neu ar y cyrion.

Mae Paul Watson wedi cyfaddef ers hynny nad oedd y polisi recriwtio’n ddigon da pan ddaeth i’r clwb.

Daeth e dan y lach unwaith eto pan gafodd e dynnu ei lun yn yr eisteddle gyda Nathan Jones, cyn-reolwr Luton, sy’n gefnogwr brwd o Gaerdydd ac a gydweithiodd gyda Watson tra roedd hwnnw gyda Luton hefyd.