Mae Chris Cooke a Colin Ingram wedi ymestyn eu cytundebau gyda Chlwb Criced Morgannwg.

Bydd y ddau yn aros gyda’r sir am ddwy flynedd arall.

Daeth gêm gyntaf Chris Cooke i’r sir yn 2011, wrth iddo fe daro ergydion chwech â’i ail, ei drydedd a’i bedwaredd belen mewn gêm ugain pelawd yn erbyn Middlesex yng Nghaerdydd.

Daeth yn aelod allweddol o’r garfan dros y blynyddoedd, ac yntau’n wicedwr ac yn fatiwr canol y rhestr ym mhob fformat.

Cafodd ei anrhydeddu â blwyddyn dysteb yn 2024.

Mae e wedi torri sawl record i’r sir, gan gynnwys bod yn rhan o bartneriaeth o 307 am y bumed wiced gyda Kiran Carlson yn erbyn Swydd Northampton yng Nghaerdydd yn 2021, ac o bartneriaeth ddi-guro o 461 gyda Sam Northeast yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn Grace Road y tynmor canlynol.

Mae’n un o dri batiwr y sir sydd wedi taro canred yn y Bencampwriaeth, gemau Rhestr A a gemau ugain pelawd.

Mae wedi chwarae mewn mwy o gemau ugain pelawd (161) nag unrhyw chwaraewr arall yn hanes y sir, ac mae ganddo fe gyfradd sgorio o 148.75 yn y fformat.

Tarodd e’r canred cyflymaf erioed i Forgannwg mewn gemau ugain pelawd gyda’i ganred oddi ar 38 o belenni yn erbyn Middlesex yn Ysgol Merchant Taylors y llynedd.

Mae e wedi chwarae mewn 144 o gemau dosbarth cyntaf, gan waredu 339 o fatwyr o’r tu ôl i’r wiced, a 115 o fatwyr mewn 165 o gemau ugain pelawd.

‘Amser cyffrous iawn i fod ynghlwm â’r clwb’

“Dw i wrth fy modd o gael chwarae i Forgannwg am ddwy flynedd arall,” meddai Chris Cooke.

“Mae’n amser cyffrous iawn i fod ynghlwm â’r clwb.

“Mae gen i lawer iawn mwy i’w roi ar y cae ac oddi arno, a dw i’n teimlo bod fy nghriced gorau o ’mlaen i o hyd.”

Dywed Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, fod Chris Cooke wedi bod yn “chwaraewr gwych” i Forganwg, ac “yn sicr y batiwr-wicedwr gorau erioed i’r clwb o dipyn”.

“Mae e’n arweinydd yn ein hystafell newid, ac yn ddylanwad positif ar y clwb cyfan, ac rydyn ni wrth ein boddau o’i gael e gyda ni am y dyfodol agos.”

Colin Ingram

Colin Ingram (chwith), gydag Alan Jones (canol) a John Williams (dde)

Cafodd Colin Ingram ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn Clwb Criced Morgannwg ar gyfer tymor 2024.

Tarodd e bum canred dosbarth cyntaf eleni, gan sgorio 1,000 o rediadau.

Cyrhaeddodd e’r garreg filltir o 1,000 o rediadau mewn 13 batiad, gan dorri record Majid Khan, oedd wedi cymryd pymtheg batiad yn 1972.

Sgoriodd Ingram 257 heb fod allan, ei sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed, yn erbyn Swydd Gaerlŷr yng Nghaerdydd y tymor hwn hefyd.

90.06 oedd ei gyfartaledd ar gyfer y tymor dosbarth cyntaf, y gyfartaledd uchaf erioed yn hanes Morgannwg, gan drechu 81.16 Michael Neser a 71.71 Marnus Labuschagne yn 2023.

Gyda’i 1,351 o rediadau dosbarth cyntaf, doedd neb yng Nghymru na Lloegr wedi sgorio mwy o rediadau dosbarth cyntaf yn ystod y tymor.

Sgoriodd e 2,001 o rediadau dros bob fformat, gan chwarae rhan allweddol wrth i Forgannwg ennill Cwpan Undydd Metro Bank wrth guro Gwlad yr Haf yn Trent Bridge.

Pan ymunodd e â Morgannwg yn 2015, roedd e eisoes yn chwaraewr rhyngwladol profiadol, ac yntau wedi cynrychioli De Affrica mewn 31 o gemau undydd a naw gêm ugain pelawd.

Mae e wedi sgorio 3,941 o rediadau dosbarth cyntaf i Forgannwg, gan daro 13 canred, a bu’n rhan o ddwy bartneriaeth fawr – 328 am yr ail wiced gydag Eddie Byrom yn erbyn Sussex yng Nghaerdydd yn 2022, a 315 am y bumed wiced gyda Kiran Carlson yn erbyn yr un gwrthwynebwyr ar yr un cae eleni.

Mae e wedi sgorio 2,604 o rediadau Rhestr A i’r sir, gan gynnwys deg canred – dim ond Hugh Morris a Matthew Maynard sydd wedi sgorio mwy.

Mae e hefyd wedi sgorio 3,086 o rediadau mewn gemau ugain pelawd, sy’n fwy na’r un chwaraewr arall yn hanes Morgannwg, ac wedi taro tri chanred.

Dywed Mark Wallace fod Colin Ingram wedi bod yn “rhan enfawr o’r clwb dros y naw mlynedd diwethaf”.

“Mae e’n ddylanwad rhagorol ar y cae ac oddi arno, ac rydyn ni wrth ein boddau ei fod e’n mynd i aros gyda’r clwb yn y dyfodol agos,” meddai.

Tymor 2024

Cafodd Colin Ingram ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn Clwb Criced Morgannwg ac Orielwyr San Helen ar gyfer tymor 2024, wrth i’r Orielwyr gynnal eu cinio blynyddol olaf yn Abertawe.

Wrth sgorio cyfanswm o 2,001 o rediadau eleni, fe gyrhaeddodd y chwaraewr tramor 39 oed y garreg filltir o 1,000 yn y nifer lleiaf erioed o fatiadau (13) i’r sir.

Sgoriodd e 1,351 o rediadau yn y Bencampwriaeth – mwy nag unrhyw chwaraewr arall yn yr adran gyntaf neu’r ail adran, ac fe wnaeth e daro o leiaf hanner canred ym mhob un o’i unarddeg gêm, gan gynnwys ei ganred dwbwl cyntaf erioed.

Ac roedd e hefyd wedi cyrraedd rhestr fer Chwaraewr y Flwyddyn Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA).

‘Blwyddyn ar y tro’

“Dw i’n mynd i gymryd blwyddyn ar y tro,” meddai wrth golwg360 cyn cyhoeddi’r cytundeb.

“Roeddwn i’n credu mai eleni fyddai fy mlwyddyn olaf, ond fe wnes i ddysgu tipyn amdanaf fi fy hun a fy nghorff, a’r hyn sydd angen i fi ei wneud yn wahanol i gadw fy hun ar y cae.

“Blwyddyn ar y tro, ond gobeithio o leiaf ddwy flynedd arall.”