Mae Chwaraeon Cymru yn rhybuddio y gallai unrhyw doriadau pellach i’w cyllid gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf gael effaith ddinistriol.

Cyflwynodd Brian Davies, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, a Tanni Grey-Thompson, cadeirydd y corff, dystiolaeth gerbron ymchwiliad yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Hydref 9) am effaith toriadau yn y sector diwylliant.

Gofynodd Delyth Jewell, sy’n cadeirio’r pwyllgor diwylliant, beth fyddai’n digwydd pe bai toriadau i gyllid Chwaraeon Cymru yn cael eu hailadrodd yn y gyllideb y flwyddyn nesaf, fydd yn cael ei gyhoeddi ar Ragfyr 10.

“Mi fyddai’n broblem fawr,” meddai Brian Davies Davies, gan ddweud bod Chwaraeon Cymru wedi bod yn ffodus eleni i fedru amsugno’r toriad o 10.5% gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y byddai cwtogiadau pellach yn peri her “ddirfodol” i gyrff arweinyddol llai sydd wedi’u hariannu gan Chwaraeon Cymru, sy’n gyfrifol am ddatblygu ac am hyrwyddo chwaraeon.

‘Economi ffals’

Awgrymodd Brian Davies fod y toriad eleni wedi effeithio ar gyfranogiad a chydraddoldeb, gan ychwanegu bod Chwaraeon Cymru wedi ceisio lleddfu hyn drwy basio toriad o 3.5% yn unig ymlaen i’w partneriaid.

“Mae torri chwaraeon, sy’n ddyfais arbennig ar gyfer y cynllun iechyd ataliol, yn economi ffals… Am bob £1 o arian cyhoeddus gaiff ei wario ar chwraeon a gweithgarwch corfforol, mae £4.44 yn cael ei adennill o ran buddsoddiad cymdeithasol i Gymru,” meddai.

Roedd tystiolaeth ysgrifenedig Chwaraeon Cymru yn dweud bod y toriad o £2.5m i’w cyllid yn 2024-2025 yn debygol o fod wedi arwain at golled o £11.1m o ran adenillion cymdeithasol.

“Mae’n bosib na fyddwn ni’n gweld yr effaith am gwpwl o flynyddoedd, mewn gwirionedd… ond mi fydd effaith o ran yr hyn mae pobl yn medru ei gyflenwi,” meddai’r Farwnes Tanni Grey-Thompson.

Pan soniodd Lee Waters, Aelod Llafur o’r Senedd, am awgrymiadau bod “greddf i amddiffyn chwaraeon elît yn gyntaf”, dywedodd Brian Davies, “Na, dydw i ddim yn credu bod hynny’n deg – a dweud y gwir, dwi’n gwybod nad yw hynny’n gywir.

“Mae gan gyrff arweinyddol, ar y cyfan, ystod mor eang o gyfrifoldebau dros eu chwaraeon yn y sector – dim ond un cyfrifoldeb ydy chwaraeon elît.

“Mae yna gryn dipyn sy’n mynd ymlaen.”

‘Hanfodol’

Ychwanegodd y Farwnes Tanni Grey-Thompson fod Chwaraeon Cymru wedi symud oddi wrth fynnu targedau medalau, am fod hynny’n sbarduno diwylliant sy’n cael effaith ar lawr gwlad.

“Mae’n partneriaid ni’n deall os nad ydych chi’n datblygu’r sylfaen eang yna, dydych chi ddim yn mynd i gael athletwyr sy’n ennill medalau,” meddai’r athletwraig.

Pwysleisiodd bwysigrwydd gweithgarwch corfforol, gan alw am ffocws ar bobol ifanc a’r grwpiau hynny sy’n “anoddach i’w cyrraedd ac yn haws i’w hanwybyddu”, er mwyn datblygu patrymau ymddygiad da.

Roedd Brian Davies yn cytuno am bwysigrwydd polisïau ataliol, ond fe rybuddiodd nad yw’r cysylltiad rhwng Chwaraeon Cymru, addysg ac iechyd yr un mor gryf ag y gallai fod.

Wrth gael ei holi am effaith toriadau cynghorol, er enghraifft i ganolfannau hamdden, dywedodd Brian Davies fod cyfleusterau’n fater hanfodol, gan gyfeirio at gynllun grant egni sydd gan Chwaraeon Cymru.

‘Hitio’r wal’

Roedd Brian Davies yn cydweld am y rôl y gallai ysgolion ei chwarae wrth agor eu cyfleusterau y tu hwnt i’w horiau agor, yn enwedig yn ardaloedd gwledig Cymru, ond fe rybuddiodd fod Chwaraeon Cymru “wedi hitio’r wal i raddau”.

Wrth gael ei holi am fynediad at gyllid gan ymddiriedolaethau neu sefydliadau, dywedodd y gallai’r incwm sy’n cael ei gynhyrchu gan Chwaraeon Cymru gael ei adfachu gan Lywodraeth Cymru rywbryd eto.

“Mae’n fan diddorol dydyn ni heb wneud cynnydd ynddo fe, a dydw i ddim yn credu bod unrhyw gyngor chwaraeon arall wedi gwneud, chwaith,” meddai wrth aelodau’r pwyllgor.

Dywedodd y Farwnes Tanni Grey-Thompson fod nawdd i gyrff arweinyddol yn “sylweddol is nag y byddech chi’n ei ddychmygu,” gyda chwymp sylweddol ers Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012.

Soniodd Lee Waters am bryderon y bydd cyrff Cymreig annibynnol yn ei gweld hi’n gynyddol anoddach i gynnal gweithgareddau, gyda rhai’n dychwelyd o bosib i gyrff Prydain neu Gymru a Lloegr.

Wrth gael ei wthio ar Undeb Rygbi Cymru, croesawodd Brian Davies y cynnydd o ran arweinyddiaeth, gan ddweud bod Chwaraeon Cymru wedi ailgyflwyno cyllid gafodd ei dynnu ddwy flynedd yn ôl.