Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio rhaglen newydd fydd yn galluogi merched yn eu harddegau i ymuno â’u cymuned drwy chwarae pêl-droed.

Enw’r rhaglen newydd yw BE.FC, sy’n sefyll am BE. Football Community, a’r gobaith yw mynd i’r afael â’r duedd gyffredin i ferched roi’r gorau i chwaraeon yn 13 oed.

Daw’r cyhoeddiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Ferch heddiw (Hydref 11), ac mae’r rhaglen yn cydweithio â chlybiau pêl-droed yn y Rhyl, Bangor, Conwy, y Trallwng, Casnewydd, Abertawe, Camros yn Sir Benfro a’r Tyllgoed yng Nghaerdydd, ynghyd â sefydliad Game On Wales.

Drwy BE.FC bydd sesiynau hwyliog “Troi Fyny a Chwarae” yn cael eu cynnig ledled Cymru lle gall merched rhwng 12 a 16 oed fwynhau pêl-droed mewn modd llai ffurfiol.

Ar ben hynny, mae ap BE.FC yn cael ei lansio, fydd yn golygu bod defnyddwyr yn gallu ennill bathodynnau a phwyntiau, yn gallu dysgu am bêl-droed a chael cefnogaeth drwy gamau pwysig eu harddegau, megis y mislif.

‘Rhaglen i ferched gan ferched’

Mae’r rhaglen wedi cael ei theilwra’n arbennig at anghenion merched yn eu harddegau, meddai’r Gymdeithas Bêl-droed, gan ddweud eu bod nhw wedi trafod â channoedd o ferched i’w chynllunio.

Yn ystod y broses, rhannodd 600 o ferched o bob cwr o Gymru eu hawydd i fwynhau pêl-droed mewn amgylchedd cymdeithasol, heb bwysau.

Dywed Bethan Woolley, Rheolwr Pêl-droed Llawr Gwlad Merched, y bydd y rhaglen yn caniatáu i “bob merch ryngweithio gyda phêl-droed, cwrdd â phobol o’r un meddylfryd a mwynhau pêl-droed mewn amgylchedd hamddenol”.

“Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i greu cymuned i ferched, i fwynhau chwarae pêl-droed yn, dod yn gefnogwyr y gêm ac i greu rhwydwaith o fewn eu cymuned leol,” medd Bethan Woolley.

“Rydyn ni’n gwybod bod gan ferched fwy o bwysau wrth gyrraedd eu harddegau, ac mae’n hanfodol ein bod yn eu cefnogi trwy hyn er mwyn iddyn nhw barhau a ffynnu mewn gweithgarwch corfforol – mae BE.FC yn gwneud hyn yn union.”

‘Cam mawr’

Ychwanega Ben Field, Rheolwr Pêl-droed Llawr Gwlad Cymdeithas Bêl-droed Cymru, eu bod nhw wrth eu boddau’n darparu’r rhaglen a’r cyfleoedd i ferched yn eu harddegau.

“Eleni fe wnaethon ni lansio’r strategaeth “Gwella Bywydau Trwy Bêl-droed” ar gyfer pêl-droed llawr gwlad gyda phrif amcan o leihau’r nifer y plant sy’n rhoi’r gorau i chwarae pêl-droed rhwng 12-17 oed,” meddai Ben Field.

“Mae’r rhaglen hon yn gam mawr tuag at gyflawni hyn ac yn darparu cyfleoedd chwarae hyblyg ac atyniadol i bob merch mewn pêl-droed.”