Fe wnaeth tîm pêl-droed Cymru wastraffu mantais o ddwy gôl yn erbyn Gwlad yr Iâ, wrth i’w gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn Reykjavik orffen yn gyfartal 2-2.

Ond ar yr ochr bositif, mae rhediad di-guro tîm Craig Bellamy yn parhau, a fe yw’r rheolwr cyntaf yn hanes Cymru i fod yn ddi-guro yn ei dair gêm gyntaf wrth y llyw.

Aethon nhw ar y blaen drwy Brennan Johnson ar ôl deg munud, cyn dyblu eu mantais ar ôl 28 munud pan rwydodd Harry Wilson gyda chymorth Neco Williams.

Ond sgoriodd Gwlad yr Iâ ddwywaith mewn tair munud i unioni’r sgôr ar ôl 71 munud.

Tarodd Logi Tomasson ergyd isel i haneru mantais Cymru, cyn iddo fe orfodi’r golwr Danny Ward i wneud camgymeriad wrth wyro’r bêl i’w rwyd ei hun.

Mae’r canlyniad yn gadael Cymru ddau bwynt y tu ôl i Dwrci ar y brig.

Byddan nhw nawr yn troi eu golygon at y gêm yn erbyn Montenegro nos Lun yng Nghaerdydd.