Mae’r chwaraewr rygbi Jonathan Davies wedi cyhoeddi ei ymddeoliad.

Gadawodd y canolwr 36 oed ranbarth y Scarlets ar ddiwedd tymor 2023-24, ac yntau wedi sgorio 55 o geisiau mewn 209 o gemau mewn dau gyfnod.

Roedd e hefyd wedi ennill 96 o gapiau dros Gymru, gan gynnwys pedwar yn gapten, gan chwarae i’r Llewod ar ddwy daith hefyd, i Awstralia yn 2013 a Seland Newydd yn 2017.

Cafodd ei enwi’n chwaraewr gorau’r gyfres yn erbyn y Crysau Duon.

Gyda Chymru, enillodd e’r Gamp Lawn, a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad ddwywaith.

Dywed iddo gael cyfle i fyfyrio dros yr haf, gan ddod i benderfyniad ei fod e’n dymuno treulio mwy o amser gyda’i deulu.

Roedd e’n aelod o garfan y Scarlets enillodd dlws y Pro12 yn 2016-17, ac fe chwaraeodd e i Clermont Auvergne yn Ffrainc hefyd.

Mae’n debygol y bydd yn parhau i chwarae ar lefel clybiau Cymru, ac yntau wedi dechrau ei yrfa gyda Sanclêr a Hendy-gwyn ar Daf cyn ymuno ag Academi’r Scarlets.