Mae’r bowliwr Andy Gorvin wedi ymestyn ei gytundeb gyda Chlwb Criced Morgannwg am ddwy flynedd arall.
Bu’n flwyddyn lwyddiannus i’r bowliwr lled-gyflym, ac yntau’n gyfrannwr cyson a gwerthfawr gyda’r bat a’r bêl wrth i’r sir ennill Cwpan Undydd Metro Bank.
Cipiodd e 19 o wicedi yn ystod yr ymgyrch, gan orffen yn gydradd â’i gyd-chwaraeawr Dan Douthwaite, ac Ed Barnard o Swydd Warwick.
Cipiodd e bum wiced am 56 yn erbyn Swydd Nottingham yng Nghastell-nedd, wrth gofnodi ei ffigurau gorau erioed mewn gemau 50 pelawd.
Ar y cyd â Jamie McIlroy, arweiniodd e Forgannwg at fuddugoliaeth o un wiced dros Sussex ar y Gnoll hefyd.
Cipiodd e bum wiced mewn batiad am y tro cyntaf yn y Bencampwriaeth wrth i Forgannwg guro Sussex yng Nghaerdydd, a chipiodd e dair wiced yn erbyn Swydd Gaerloyw yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.
Ar ddiwedd tymor 2024, yng nghinio Orielwyr San Helen, enillodd e’r wobr am y chwaraewr sydd wedi gwella fwyaf.
Bu Andy Gorvin yn gapten ar dîm criced Sain Ffagan tra ei fod yn astudio ym Mhrifysgol Met Caerdydd, ac roedd yn aelod o dîm Prifysgolion Caerdydd yr MCC pan ddaliodd e sylw Morgannwg.
Daeth ei gêm gyntaf mewn criced dosbarth cyntaf i’r sir yn 2022, ar ôl bod yn aelod o’r tîm gododd Gwpan Undydd Royal London y tymor cynt.
‘Hapus iawn’
“Dw i wrth fy modd o gael llofnodi estyniad gyda’r clwb,” meddai Andy Gorvin, sy’n hanu o Swydd Hampshire.
“Dw i wedi bod wrth fy modd bob munud gyda Morgannwg hyd yn hyn, a dw i’n edrych ymlaen at adeiladu ar y gwaith rydyn ni wedi’i wneud eleni i wthio am ddyrchafiad a thu hwnt.
“Gobeithio y galla i gael effaith ar fwy o gemau yn y dyfodol, a dw i’n hapus iawn i fod yn rhan o gyfnod cyffrous i’r clwb.”
Mae Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, wedi canmol ei gyfraniad i’r sir hyd yma.
“Mae Andrew wedi cael tymor ardderchog wrth dorri i mewn i’r tîm ym mhob fformat,” meddai.
“Mae e’n aelod hynod boblogaidd o’r garfan, yn gweithio’n galed ac yn ddiwyd, ac rydyn ni wrth ein boddau y bydd e gyda ni am y ddwy flynedd nesaf.”