Mae’r Senedd wedi cyhoeddi arddangosfa i ddathlu 25 mlynedd o ddatganoli, fydd ar agor hyd at Dachwedd 11.
Bydd ‘Eich Llais’, sy’n adrodd hanesion sawl person, yn dathlu’r bobol gyffredin sydd wedi llywio trywydd y sefydliad drwy ddefnyddio’u llais i alw am newid.
Ymhlith y rhain mae Neil Evans o Gaerfyrddin, gyflwynodd y ddeiseb arweiniodd at wahardd y rhan fwyaf o fagiau untro yng Nghymru; Rhian Mannings, o Rondda Cynon Taf, gyflwynodd ddeiseb yn galw am well genfogaeth i rieni’n dilyn marwolaeth sydyn plentyn, wedi colled ei mab a’i gŵr o fewn pum niwrnod i’w gilydd; a Sarra Ibrahim o Gaerdydd, sydd wedi gwneud sawl cyfraniad gwerthfawr i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, gan sicrhau llais i fenywod lleiafrifol sydd wedi dioddef trais ar sail rhywedd.
Yn ogystal, mae’r arddangosfa’n talu teyrnged i gyn-aelodau dylanwadol Senedd Ieuenctid Cymru, Angel Azeadum o Gaerdydd a Cai Phillips o sir Gaerfyrddin.
Roedd y ddau’n rhan o’r garfan o 60 ddaeth â materion pobol ifanc gerbron y Senedd rhwng 2018 a 2021.
‘Lleisiau pobol wedi llywio stori’r Senedd’
Yn ôl Elin Jones, Llywydd y Senedd, pobol sydd wedi llywio’r Senedd ers y dechrau.
“Mae lleisiau pobol wedi llywio stori’r Senedd a byddan nhw’n helpu i lywio ei dyfodol hefyd,” meddai.
“Ers 25 mlynedd, mae ein pwyllgorau wedi troi at bobol yng Nghymru wrth iddyn nhw ymchwilio i’r materion sydd o bwys, gan bwyso am newidiadau i wella bywydau.
“Mae deisebau i’r Senedd, a’u miloedd o lofnodion, wedi newid y gyfraith yng Nghymru, o leihau’r defnydd o blastig untro i ddiogelu lles anifeiliaid, ac mae Aelodau’n gweithio’n galed yn eu cymunedau bob dydd, yn siarad â phobol am y materion sydd o bwys iddyn nhw.
“Mae gwleidyddion wedi mynd a dod, gan wneud eu cyfraniadau eu hunain.
“Ond nid Senedd y gwleidyddion yw hon – mae’n perthyn i bobol Cymru, sef y rhai luniodd ei dechreuad ac sy’n llywio ei dyfodol.
“Mae’n bwysig ein bod yn dathlu’r ffaith bod defnyddio eich llais yn gallu gwneud gwahaniaeth.”