Mae Aelod o’r Senedd wedi rhybuddio nad yw menywod yn ceisio triniaeth na gofal meddygol yn aml iawn o ganlyniad i normaleiddio’u poen emosiynol neu gorfforol.

“Gall y boen mae menywod yn ei dioddef o ran eu gofal meddygol fod yn gorfforol, ac fe all fod yn seicolegol hefyd,” meddai Delyth Jewell wrth arwain dadl ar iechyd menywod.

“Mae’n annerbyniol, mae’n costio bywydau…

“Menywod yw hanner ein poblogaeth ni – ni ddylid trin eu dioddefaint fel rhywbeth normal.”

Fe wnaeth Delyth Jewell herio disgwyliad i fenywod orfod goddef poen yn sgil triniaethau megis profion ceg y groth, gosod coil a hysterosgopi.

Roedd ei chynnig yn galw am rwymedigaethau cyfreithiol ar gyfer iechyd menywod.

Disgrifiodd hi normaleiddio poen mislif fel rhywbeth arbennig o greulon, gan ei fod yn addysgu merched yn ifanc iawn fod poen yn rhan annatod o’u bywydau.

‘Ystyfnig o ddidrugaredd’

Disgrifiodd gwleidydd Pliad Cymru yr ystadegau ar gyfer mathau o ganser gynecolegol fel rhai “ystyfnig o ddidrugaredd”, gan ddweud bod modd eu priodoli’n rhannol i fenywod yn teimlo na fydd neb yn eu credu.

Dywedodd fod astudiaeth yn dangos bod chwarter menywod Cymru wedi ymweld â’u meddyg teulu dair gwaith neu fwy cyn cael eu cyfeirio ar gyfer profion, a bod traean wedi aros o leiaf dri mis am ddiagnosis.

Roedd ei chynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau’r disgwyliadau ar gyfer byrddau iechyd yn y datganiad ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched.

Mi wnaeth hi annog gweinidogion i gyflwyno dyletswydd ar ddarparwyr gofal iechyd i gasglu adborth gan gleifion, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau gynecolegol, bydwreigiaeth, ôl-enedigaeth, iechyd meddwl a’r menopos.

Cododd Delyth Jewell bryderon am ddiffyg ymchwil a dealltwriaeth o gyflyrau gwanhaol sy’n effeithio ar fenywod, megis endometriosis.

‘Camdrin yn feddyliol (gaslighting)’

“Yn rhy aml, caiff menywod eu camdrin yn feddyliol (gaslit), dywedir wrthyn nhw am beidio poeni, ac aros i weld a yw pethau’n gwaethygu, neu maen nhw’n cael eu seicolegu ac yn cael eu holi a ydyn nhw’n dioddef o or-bryder,” meddai Delyth Jewell.

“Mewn triniaethau, mae’r boen sy’n cael ei gorfodi ar fenywod yn cael ei derbyn fel rhywbeth normal, ac yn cael ei thanbrisio.

“Ac mae’r boen mae menywod yn siarad amdani neu’n ceisio cymorth ar ei chyfer hefyd yn cael ei thanbrisio.”

Wrth rybuddio am gyfraddau “brawychus” o isel o bobol sy’n cael profion ceg y groth, fe wnaeth Delyth Jewell briodoli hyn i letchwithdod a thriniaeth anghysurus.

Dywedodd fod diffyg cynllun iechyd ar gyfer menywod a merched yng Nghymru’n sicr yn rhan o’r broblem, gan gyfeirio at enghreifftiau yn Norwy, Sweden, Canada a’r Alban.

‘Dal i fynd’

Rhybuddiodd Carolyn Thomas o’r Blaid Lafur ei fod yn cael ei ystyried yn beth cyffredin i fenywod byw ag anghysur a phoen, a’r cyngor fel arfer yw i “ddal i fynd”.

Tynnodd hi sylw at ymgyrch Claire, gafodd ei lansio ar ôl iddi gael diagnosis o ganserau gynecolegol ddwy flynedd ar ôl iddi grybwyll ei symptomau am y tro cyntaf.

Mi wnaeth hi ganmol yr ymgyrchydd am frwydro i sicrhau newid diwylliant yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Canolbwyntiodd Sioned Williams o Blaid Cymru ar bwysigrwydd gwella gwasanaethau ac addysg menopos er mwyn torri tabŵ hanesyddol.

Dywedodd fod menywod yn rhy aml yn cael eu gorfodi i deimlo fel niwsans, a’u bod nhw’n rhoi’r gorau i geisio triniaeth.

Mi wnaeth y Ceidwadwr Natasha Asghar ganolbwyntio ar ganser y fron, gan rybuddio bod menywod yn wynebu aros am flynyddoedd am lawdriniaeth ail-lunio’r fron, all gael effaith ddifrifol ar eu hiechyd meddwl.

Cyfeiriodd Heledd Fychan o Blaid Cymru at addewidion i roi cynllun iechyd menywod ar waith yn 2023, gan ddweud y dylai fod yn cael ei gyflwyno erbyn hyn.

‘Bychanu’

Dywedodd Joyce Watson, sy’n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, fod profiadau menywod o boen wedi cael eu bychanu neu eu hwfftio am yn rhy hir oherwydd methiannau systemig.

Dywedodd Sarah Murphy ar ran Llywodraeth Cymru fod iechyd menywod yn dal i fod yn flaenoriaeth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, oedd wedi camu i’r swydd dros yr haf, wrth y Senedd ei bod hi wedi gosod terfyn amser iddi hi ei hun i gyflwyno cynllun erbyn Rhagfyr 10.

Pwysleisiodd y bydd lleisiau menywod wrth galon y cynllun.

Rhannodd Sarah Murphy bryderon am normaleiddio poen emosiynol a chorfforol menywod, gan gefnogi’r egwyddorion sy’n tanlinellu’r cynnig.

Ond yn bwysig iawn, roedd y gweinidog yn anghytuno â’r angen am newid deddfwriaethol.

Cafodd y cynnig, nad yw’n rhwymol, ei gytuno’n unfrydol yn dilyn y ddadl ddoe (dydd Mercher, Hydref 2).