Mae arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi rhybuddio ei bod hi’n bosib y bydd hyd at 600 o ddiswyddiadau yn y Cyngor, wrth i’r awdurdod lleol frwydro er mwyn arbed “swm anferthol” o arian.

Mae’r Cyngor yn disgwyl y bydd yn rhaid arbed £45m dros y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys £33 miliwn eleni, er mwyn mantoli’r gyllideb.

Yn ogystal, fe wnaeth yr Aelod o’r Cabinet â chyfrifoldeb dros Gyllid honiadau bod gan y Cyngor £200m mewn cronfeydd wrth gefn, gan fynnu mai dim ond £16m sydd ar gael ar gyfer gwariant brys mewn gwirionedd.

Roedd y ddau uwch-gynghorydd yn siarad mewn cyfarfod â’u cyd-gynghorwyr ddoe (dydd Llun, Hydref 1), er mwyn cynnig mwy o eglurhad am y pwysau ariannol mae Cyngor Caerffili’n ei wynebu.

Bwlch

Mae’r Cyngor yn dweud bod y bwlch cyllidebol o £45m wedi agor am fod costau darparu a chynnal gwasanaethau wedi cynyddu’n gyflymach na’r grantiau sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am ran helaeth o gyllid y Cyngor.

Dywed Sean Morgan, arweinydd y Cyngor oedd wedi cymharu’r sefyllfa â ‘llymder eithafol’, fod y rhagolwg ariannol yn beth “prudd”.

Mae’r Cyngor wedi darganfod ffyrdd y byddan nhw’n medru arbed £28m dros y ddwy flynedd nesaf, sef symleiddio gwasanaethau, cyfyngu gwariant a gwneud toriadau.

Llancaiach Fawr a Phryd ar Glud

Roedd hynny’n amlwg iawn yn ddiweddar, pan gefnogodd arweinwyr y Cyngor gynnig i gau’r amgueddfa yn Llancaiach Fawr, sy’n derbyn cymorthdal o £485,000 y flwyddyn gan y Cyngor.

Roedd y penderfyniad hwnnw’n hynod ddadleuol, ac roedd y Cynghorydd Sean Morgan yn cyfaddef hynny ddydd Llun, pan gyfeiriodd yr arweinydd at olygfeydd “angerddol ac, yn aml, crac” yn siambr y Cyngor pan gafodd y cynllun ei drafod.

Rhoddodd y Cyngor y gorau i’w cynnig i dorri cynllun prydau clud y cyngor, Meals Direct, yn sgil ymdeimlad cryf ar ddiwrnod y penderfyniad terfynol o blaid y gwasanaeth fel ‘achubiaeth’ i gynifer.

Yn ei apêl i gynghorwyr ddydd Llun, gofynnodd y Cynghorydd Sean Morgan i’w gyd-aelodau “lunio dyfodol” y Cyngor drwy amddiffyn gwasanaethau allweddol yn wyneb sefyllfa ariannol “ddi-gynsail”.

Rhybuddiodd y byddai’r gwaith hwnnw’n arwain at ragor o benderfyniadau anodd, gan gynnwys am ddyfodol llawer o weithwyr y Cyngor.

“Bydd y Cyngor yn wynebu gostyngiad o ryw 600 o rolau llawn amser – mae hynny’n golygu tua 10% o’n gweithlu,” meddai.

Bydd y Cyngor yn “cyfyngu” nifer y diswyddiadau gorfodol, ond yn ceisio “gweithio gyda staff i edrych ar ailddarpariaeth ac ymddeoliadau cynnar, er mwyn cwtogi effaith cael gweithlu sy’n crebachu”.

“Er nad oes neb yn dymuno bod yn y sefyllfa annymunol hon, mae’n sefyllfa sydd wedi’i gorfodi arnom ni,” meddai wedyn.

Camddehongli

Dywedodd Eluned Stenner, yr aelod o’r Cabinet â chyfrifoldeb dros Gyllid, na ddylai’r honiadau sydd wedi’u gwneud am gronfaoedd wrth gefn iach y Cyngor gael eu camddehongli.

“Dim ond unwaith allwn ni ddefnyddio cyllid wrth gefn, a dydyn ni’n methu dibynnu arnyn nhw i osod cyllid cytbwys yn y tymor canolig na’r hirdymor,” meddai.

Mae tua £37.4m wedi’i glustnodi ar gyfer tai, ysgolion ac yswiriant; £28.9m yn gyfalaf wrth gefn mae’n rhaid ei ddefnyddio ar adeiladwaith yn hytrach nag ar gynnal gwasanaethau; ac mae £36.3m pellach wedi’i glustnodi ar gyfer adeiladu ysgolion newydd.

Mae £73.3m ychwanegol wedi’i glustnodi ar gyfer prosiectau penodol sydd wedi’u cymeradwyo gan y Cyngor eisoes, sy’n gadael £16.4m yn unig “nad yw wedi’i ymrwymo”.

“I osod hyn i gyd yn ei gyd-destun, byddai hynny’n ariannu gwariant refeniw am gyfnod o ddwy wythnos yn unig,” meddai’r Cynghorydd Eluned Stenner.

“Ein dyletswydd ni ydy peidio â chamarwain y cyhoedd yn bwrpasol i gredu bod gan yr awdurdod hwn £192m ar gael i ni er mwyn sicrhau na fydd toriadau i wasanaethau cyhoeddus – dydy hynny jyst ddim yn wir.”

Yn ogystal, dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan wrth ei gydweithwyr ei fod e wedi cynnig cyfarfod â’r undebau llafur er mwyn trafod unrhyw effeithiau disgwyliedig ar weithlu’r Cyngor.