Mae brwydr ar y gweill yn sir Caerffili i achub gwasanaeth “hanfodol” Pryd ar Glud.
Cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fis diwethaf eu bod yn ystyried torri’r gwasanaeth Meals Direct, a hynny yn sgil trafferthion ariannol y Cyngor.
Pwrpas y gwasanaeth yw dosbarthu prydau bwyd i’r rheini sy’n methu gadael eu tai, neu sydd ag anableddau.
Mae’r gwasanaeth yn dosbarthu oddeutu 125,000 o brydau bob blwyddyn.
Pe bai’r gwasanaeth yn cael ei dorri, bydd y Cyngor yn cynorthwyo’r defnyddwyr i ddefnyddio gwasanaethau eraill.
Gwasanaeth “hanfodol”
Yn ôl Damien Jones, Trefnydd Rhanbarthol Unsain Cymru – undeb sy’n brwydro i achub y gwasanaeth – mae gwasanaeth Meals Direct yn “hanfodol i rai o’r henoed mwyaf bregus yn y gymuned”.
“Rydym yn siarad am gannoedd o hen bobol, o 70 mlwydd oed i 90 mlwydd oed, gan gynnwys rhai sy’n ddall, neu’n methu gadael y gwely,” meddai wrth golwg360.
“Maen nhw’n dibynnu ar y gwasanaeth, gan nad ydyn nhw mewn sefyllfa i goginio neu i greu eu prydau eu hunain, gan fod hyn yn peri risg iddyn nhw.
“Byddan nhw’n cael eu niweidio os daw’r gwasanaeth i ben, a bydd nifer yn cael eu gadael heb gyswllt i’r byd tu fa’s.
“Felly, mae’n rhaid ystyried y ffactor o ynysu’r bobol yma.
“Mae’r Cyngor ei hun yn disgrifio’r gwasanaeth fel rhywbeth sy’n ‘helpu pobol i gynnal eu hannibyniaeth a darparu archwiliadau rheolaidd i sicrhau bod popeth yn iawn o fewn y cartref’.
“Byddai cael gwared ar hwn yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau eraill, gan wneud unrhyw ‘arbedion’ yn hollol ddiwerth.
“Nid yn unig y bydd hyn yn effeithio’r bobol fwyaf bregus yng Nghaerffili, ond hefyd swyddi’r arlwywyr, gyrwyr a chynorthwywyr sy’n gwneud gwaith arbennig i’w helpu.
“Mae nifer o’r gweithwyr o oed lle bydd dod o hyd i waith arall yn anodd iawn, os nad yn amhosib, yn benodol gan fod y Cyngor yn lleihau neu’n cael gwared ar wasanaethau yn lle buddsoddi ynddyn nhw.
“Mae’r rhai sy’n gweithio’n galed i ddarparu gwasanaeth mor hanfodol yn dibynnu ar yr incwm i dalu eu biliau a bwydo’u teuluoedd.”
‘Hollol annheg i’n cymunedau’
Dyw Damien Jones ddim yn credu bod ystyried cau’r gwasanaeth hwn, ochr yn ochr â chau safle treftadaeth Llancaiach Fawr a Sefydliad y Glowyr, yn deg ar y gymuned.
“Mae’r posibilrwydd yn hollol annheg i’n cymunedau ac yn wrthgynhyrchiol i greu elw,” meddai wedyn.
“[Mae’r Cyngor yn ystyried] cau Sefydliad y Glowyr flwyddyn cyn ei ganmlwyddiant, pryd y dylai fod yn cynllunio digwyddiadau i ddod â’r gymuned ynghyd i’w gefnogi.
“Mae gan Lancaiach Fawr arwyddocâd sydd nid yn unig yn lleol, ond yn genedlaethol a rhyngwladol hefyd, ac mae wedi goroesi dros amser, ond yn methu goroesi toriadau’r Cyngor.
“Targedu’r bobol fwyaf bregus a cheisio cau cyfleusterau twristiaeth a chelfyddydol? Dangoswch un gymuned leol imi fyddai’n ystyried bod hyn yn deg!”
Unsain yn barod i ymateb
Dywed undeb Unsain eu bod nhw’n barod i ymateb i gynnig y Cyngor.
“Yn barod, mae Unsain yn ymateb ar ran ein haelodau a’r gymuned leol, gan dynnu sylw at y broblem yn y wasg, trefnu protestiadau tu allan i adeiladau’r Cyngor, ymddwyn fel llais hollbwysig i’r rheini sy’n dibynnu ar y prydau a’r rhai sy’n eu dosbarthu, a hefyd ategu bod y toriadau yma â’r pŵer i ddileu twristiaeth o Gaerffili.”
Yn ôl Lian Roberts, un o gyn-weithwyr arlwyo’r Cyngor, mae Meals Direct yn wasanaeth “hollbwysig i’r gymuned”.
“Maen nhw’n darparu prydau maethlon i’r genhedlaeth hŷn,” meddai wrth golwg360.
“Mae manteision cymdeithasol i’r gwasanaeth hefyd, gan y gallai’r gweithiwr fod yr unig berson maen nhw’n ei weld ar y diwrnod hwnnw.
“Gwelais i effaith y gwasanaeth ar y gymuned yn uniongyrchol.
“Mae’n creu swyddi i’r gymuned leol.
“Roedden nhw wastad yn edrych am yrwyr a staff i ddosbarthu’r prydau.
“Mae’r gwasanaeth yn arbennig.”
Mae’n rhagweld problemau enfawr pe bai’r Cyngor yn penderfynu cau’r gwasanaeth.
“Credaf y gallai cau’r gwasanaeth i lawr gael effaith ofnadwy ar ein cenhedlaeth hŷn,” meddai.
“Byddan nhw’n cymryd eu hunig ffynhonnell o faeth i ffwrdd, a hefyd yr agwedd gymdeithasol.
“Pa wasanaeth arall fydd ar gael iddyn nhw? O bosib, bydd hwn yn cymryd i ffwrdd y cyffyrddiad personol o adnabod y staff a chael mynediad i wasanaeth sy’n gweithio’n arbennig o dda.”
Ymateb y Cyngor
O fewn y datganiad hon, uwcholeuodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, bod
“Ni allwn barhau i redeg ein gwasanaethau yn y ffordd arferol,” meddai Sean Morgan, arweinydd y Cyngor Sir.
“Mae angen i ni archwilio pob opsiwn ac ystyried ffyrdd o wneud pethau’n wahanol.
“Rydw i am fod yn onest â’r gymuned, oherwydd mae’n amlwg bod maint yr arbedion yn golygu bod angen i ni wneud rhai penderfyniadau anodd iawn dros y misoedd nesaf.
“Mae gennym ni ddyletswydd i amddiffyn pwrs y wlad, felly byddwn ni’n edrych ar amrywiaeth o opsiynau arbed, yn enwedig gwasanaethau sy’n destun cymhorthdal uchel, sy’n anstatudol neu sy’n gallu cael eu darparu mewn ffordd wahanol.”