Glywsoch chi am y pâr newydd sydd wedi bod yn trafod eu cariad at y gwirionedd a thorri trethi corfforaethol?
I unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol y cyfryngau cymdeithasol, mae’n siŵr eich bod wedi tiwnio i mewn i ddarllediad byw y ‘pâr’ newydd, Elon Musk a Donald Trump, ar X (Twitter gynt) yr wythnos ddiwethaf.
Er i broblemau technegol amharu ar y 40 munud cyntaf, doedd dim byd am stopio’r ddau rhag cynnal y sgwrs ddwy awr mewn ffordd oedd mor agos at fod yn X-rated ag sy’n bosib heb ddechrau cusanu lawr y lein!
Mae Elon Musk wedi mynd o fod yn rhywun oedd yn wrth-Trump yn 2020 i fod yn gefnogwr brwd o’r cyn-Arlywydd y tro hwn.
Un o’r rhesymau clir tu ôl i’r cariad newydd yma tuag at Donald Trump ydi’r ffordd wnaeth o ymateb i’r ymdrech aflwyddiannus i’w ladd fis diwethaf. Mi roedd yna ryw gydnabyddiaeth macho gan Musk o’r ffordd ddaru Trump godi ei ddwrn wrth ailadrodd y gair ‘ymladd’ yn yr eiliadau ar ôl i fwled gusanu ei glust – dw i’n synnu nad oedd dim cenfigen ganddo, wir!
Ond nid cariad un ffordd ydi hwn. O, na! Roedd Trump yn amlwg yn edmygu penderfyniad Musk i ddiswyddo unrhyw un sy’n bygwth mynd ar streic. “Chdi ydi’r torrwr [costau] gorau,” meddai Trump wrth i Musk chwerthin – fwy na thebyg wrth gochi yn y cefndir.
O fewn pob perthynas, mae consesiynau yn gorfod digwydd – cath yn lle ci, car coch yn lle car glas – ond efallai i Trump, bydd gostwng trethi corfforaethol i 15% (sy’n sylweddol is na’r toriad o 35% i 21% yn ystod ei dymor cyntaf fel arlywydd) yn gonsesiwn fydd yn gwneud Musk yn hapus iawn. A hynny’n enwedig ar ôl i’r newyddion dorri bod rhaid iddo werthu cyfrannau Tesla er mwyn parhau i gefnogi ‘X’… xoxo!
Ac efallai’r consesiwn gan Musk er lles ei berthynas efo Trump ydi’r dewis i adael i’r cyn-Arlywydd ddychwelyd i X. Cafodd ei wahardd fis Ionawr 2021 am iddo rannu gwybodaeth ffug am ganlyniad yr etholiad arlywyddol gafodd ei ennill gan Joe Biden.
Mae Trump bellach yn ôl ac yn trydar yr un mor aml ag oedd o yn ystod ei gyfnod yn arlywydd. Efallai bod ei brosiect ‘Truth Social’ wedi bod yr un mor llwyddiannus â nifer o’i fusnesau eraill sydd wedi gorffen mewn dyled!
Ond wrth i Musk ddod yn agosach at ei gariad yn Mar-a-Lago, mae cwestiynau mawr am ddyfodol y cyfrwng cymdeithasol.
Wrth siarad â golwg360, mae Mick Antoniw, yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Bontypridd, wedi disgrifio Elon Musk a X fel “perygl mawr i ddemocratiaeth”. Ac mae Steve Rotheram, Maer Lerpwl, yn dweud y dylai gwleidyddion beidio defnyddio’r wefan – rhywbeth fyddai’n amharu ar werth y cwmni.
Felly be’ bynnag ydi’r cariad rhwng Musk a Trump, fedrwn ni ond gobeithio na fydd dim byd fel arian yn gallu dod rhyngddyn nhw (go brin!).