Mae yna “wersi i bawb” ynghylch y ffordd gafodd Vaughan Gething ei drin pan oedd yn Brif Weinidog Cymru, yn ôl arweinydd Cyngor Caerdydd.
Cafodd y cyn-Brif Weinidog ei feirniadu am dderbyn arian gan droseddwr amgylcheddol ar gyfer ei ymgyrch i ddod yn arweinydd Llafur Cymru ddechrau’r flwyddyn.
Bu’n Brif Weinidog am 138 o ddiwrnodau’n unig cyn iddo ymddiswyddo yn dilyn pwysau allanol ac o fewn y Blaid Lafur.
Wrth siarad â golwg360, dywed Huw Thomas fod yna “deimlad o dristwch” wrth edrych yn ôl dros y pum mis diwethaf, yn dilyn cyfnod byr Vaughan Gething wrth y llyw.
“Dwi’n credu bod ethol Vaughan, arweinydd du cyntaf Senedd yn Ewrop, yn dweud rhywbeth blaengar am y Gymru fodern,” meddai.
“Fy nheimlad i ydy fod e wedi cael ei ddal i safon uwch nag mae arweinwyr eraill yn cael eu dal iddo.
“Ar lefel bersonol, dw i’n teimlo’n ddrwg iawn drosto fe.
“Ond eto, dwi’n siŵr fydd e’n parhau i chwarae rôl bwysig yn ne Caerdydd ac i Gymru.
“Mae yna wersi i bawb i adlewyrchu arnyn nhw, a dwi’n credu bod hynny yn mynd i’r Grŵp [Llafur] yn y Senedd hefyd.”
Uno o’r newydd
Ymddiswyddodd pedwar aelod o Gabinet Vaughan Gething ganol mis Gorffennaf, gan arwain at ei ymddiswyddiad yntau’n fuan wedyn.
Dywed Huw Thomas fod y ffordd mae’r Blaid Lafur wedi uno tu ôl i’w olynydd Eluned Morgan, a’i dirprwy Huw Irranca-Davies, “yn gadarnhaol tu hwnt”.
“Mae hynny’n dangos dyhead ac ymrwymiad, dw i’n credu, i barhau i gyflawni yn y rôl fel Llywodraeth [Cymru], ac yn San Steffan ac yn y cynghorau sir i gyflawni dros Gymru a gweld yr angen i barhau i wneud hynny, a dim colli’r ffocws oddi ar beth sy’n bwysig.”
Mae’n cytuno ag Eluned Morgan am yr angen am “dwf” economaidd a “chreu cyfoeth”, meddai, gan gydnabod fod yna “heriau yn wynebu” y Prif Weinidog newydd.
Ond mae yna “gyfle gwirioneddol” i gydweithio â’r Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan, meddai.
“Yn y pum mlynedd diwethaf, dw i’n credu bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn amddiffynnol oherwydd bod yna Lywodraeth yn San Steffan oedd ddim yn parchu datganoli.
“Beth dw i’n gobeithio’i weld ydy cynnydd yng nghyflymder ein hagenda diwygio ni [yng Nghymru].
“A hynny fel bo ni’n cyrraedd a hyd yn oed yn curo beth sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Lafur Keir Starmer – o ran diwygiadau i gynllunio, er enghraifft.
“Mae’n hanfodol ein bod yn gallu parhau i adeiladu tai ar y raddfa yma yng Nghymru.”
Ychwanega fod Eluned Morgan wedi bod “yn hollol glir” wrth arweinwyr y cynghorau sir y bydd “twf” economaidd a “chreu cyfoeth” yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
“Dw i’n credu bod hynny’n hollbwysig i fynd i’r afael ag e ar lefelau o dlodi rydyn ni’n parhau i’w weld yng Nghymru, sydd yn deillio yn ôl i hanes dad-ddiwydiannu yn yr 1980au.”
Angen i Gymru gael ei “hailddyfeisio” fel Caerdydd
Mae Huw Thomas yn credu bod rhaid i lefydd yng Nghymru gael eu “hailddyfeisio” yn yr un modd ag y mae Caerdydd wedi’i wneud dros y degawdau diwethaf.
Dywed fod rhaid gwneud yr un math o drawsnewid drwy Gymru gyfan, gyda Chaerdydd yn “ddinas sydd wedi ailddyfeisio’i hun o ran beth ydy hi fel economi a beth ydym yn ei wneud fel dinas,” meddai.
“Rydym wedi trawsnewid o ddiwydiannau trwm y ganrif ddiwethaf.
“Mae rhannau eraill o Gymru sydd heb wneud y trawsnewid yna.
“Felly mae angen meddwl yn ddwys, dw i’n credu, am sut ydyn ni’n datgloi hynny.
“Dw i’n bersonol yn gweld yng nghyd-destun de Cymru, a de-ddwyrain Cymru, fod y berthynas yna rhwng Caerdydd a’r Cymoedd yn un hanfodol i lwyddiant Caerdydd, ac i ffyniant y Cymoedd hefyd.”