Mae disgwyl i filiau ynni godi £149 fis Hydref yn sgil cap newydd ar brisiau.
Ar gyfartaledd, bydd pobol yn talu £1,717 y flwyddyn am drydan a nwy, sy’n gynnydd o 10%.
Mae’r cap, sy’n cael ei osod gan y rheoleiddwyr ynni Ofgem, yn effeithio ar y pris sy’n cael ei dalu am bob uned o nwy a thrydan.
Er bod y prisiau dal yn rhatach na’r gaeaf diwethaf, daw’r cynnydd wrth i rywfaint o’r cymorth oedd ar gael i dalu biliau ynni ddod i ben, ac wedi i Lywodraeth Llafur y Deyrnas Unedig gyhoeddi y bydd y Taliadau Tanwydd Gaeaf yn dod i ben i 10 miliwn o bensiynwyr yng Nghymru a Lloegr.
Mae prisiau ynni wedi gostwng ddwywaith eleni, ym mis Ebrill a Gorffennaf, ond byddan nhw’n cynyddu eto wrth i’r gaeaf agosáu, o tua £12 y mis i’r defnyddiwr cyffredin.
Daw’r cynnydd yn y cap yn sgil prisiau uwch yn y farchnad ynni ryngwladol sy’n cael ei achosi gan densiynau geowleidyddol cynyddol a thywydd eithafol.
Mae’r prisiau dal dipyn rhatach nag oedden nhw pan oedd pethau ar eu gwaethaf yn ystod gaeaf 2022/23, ond maen nhw dal dipyn uwch nag oedden nhw cyn Covid.
‘Pethau am waethygu’
Mae Age Cymru wedi dweud eu bod nhw’n “bryderus iawn” y bydd rhai pobol hŷn yn cael eu temtio i droi’r gwres i ffwrdd neu ei droi lawr er mwyn arbed ynni.
“Mae’r cyhoeddiad bod y cap ar brisiau ynni am gynyddu 10% yn ergyd drychinebus i bobol hŷn ledled Cymru, ynghyd â’r cynlluniau i gael gwared ar y Taliadau Tanwydd Gaeaf heb fawr ddim rhybudd na mesurau yn eu lle i amddiffyn pensiynwyr tlawd ac agored i niwed,” meddai Age Cymru.
“Yn ystod arolwg blynyddol Age Cymru 2024, wnaeth holi 1,300 o bobol hŷn ledled Cymru, fe wnaethon ni glywed bod bron i’w hanner yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi bod yn heriol dros y deuddeng mis diwethaf, ac roedd gan hanner yr henoed broblemau gyda’u hiechyd corfforol.
“Fydd hyn ond yn gwaethygu gyda thoriadau i gefnogaeth ariannol hanfodol dros fisoedd y gaeaf.”
‘Rhaid ailystyried’
Rhaid i Lafur ailystyried eu penderfyniad i gael gwared ar y Taliadau Tanwydd Gaeaf i bensiynwyr, meddai Plaid Cymru.
“Mae gan Lafur y pŵer i amddiffyn aelwydydd sy’n agored i niwed dros y gaeaf,” meddai Plaid Cymru.
“Yn hytrach, maen nhw’n dewis cael gwared ar y Taliad Tanwydd Gaeaf i ddeng miliwn o bensiynwyr.
“Bydd hynny’n rhoi iechyd ac arian miliynau o bobol hŷn mewn perygl.
“Rhaid iddyn nhw ailystyried.”
Dywed Samuel Kurtz, llefarydd yr economi ac ynni’r Ceidwadwyr Cymreig, bod addewidion Llafur i ostwng biliau wedi “cyfarfod realiti” heddiw.
“Wrth i brisiau ynni aelwydydd godi’n sylweddol, un o weithredoedd cyntaf Llafur oedd cael gwared ar y gefnogaeth tuag at danwydd dros y gaeaf i bensiynwyr, sy’n dangos bod eu blaenoriaethau’n anghywir,” meddai.
‘Newyddion pryderus’
Ond yn ôl Ed Milliband, Ysgrifennydd Diogelwch Ynni a Sero Net Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’r cynnydd yn y cap yn “ganlyniad uniongyrchol i’r polisi ynni methedig” wnaethon nhw ei etifeddu gan y llwyodraeth Geidwadol flaenorol.
“Bydd hyn yn newyddion pryderus iawn i nifer o deuluoedd,” meddai Ed Milliband.
“Byddan ni’n gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn talwyr biliau, gan gynnwys diwygio’r rheoleiddiwr i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio dros gwsmeriaid, gweithio i sicrhau bod costau sefydlog yn decach, a chyflwyno Cynllun Tai Cynnes i arbed arian i deuluoedd.”