Dyma gyfres sy’n cael cip ar gartrefi rhai o wynebau adnabyddus Cymru. Carys Davies, yr asiant gwerthu tai a chyflwynydd teledu, sy’n agor y drws i’w chartref yr wythnos hon. Mae Carys yn byw yn Ynystawe, ger Abertawe gyda’i gŵr a dau fab, Morgan ac Elis. Mae hi’n berchen ar gwmni gwerthu tai Perfect Pads ac yn cyflwyno’r gyfres Tŷ am Ddim ar S4C a The Great House Giveaway ar Channel 4…
Dy’n ni wedi bod yn y tŷ yma yn Ynystawe ers ugain mlynedd eleni. Ges i fy magu ar fferm ym Mheniel, jest tu fas i Gaerfyrddin, ac wedyn mynd i’r brifysgol yn Llundain. Wnes i ddod ’nôl i’r cartre’ ym Mheniel i wneud fy nhraethawd hir ac roedd job yn cael ei hysbysebu efo Heno a wnes i fynd am glyweliad a chael y swydd a symud i Abertawe. Mae’r gŵr yn wreiddiol o Glais [ger Abertawe] a wnaethon ni brynu hen dŷ yn fan’na a gneud e lan. Pan o’n i’n disgwyl y mab cynta’, Morgan, roedd y tŷ yma wedi dod lan a wnaethon ni symud i Ynystawe. Roedden ni licio’r ardal ac roedd yn agos i’r draffordd i’n swyddi ni ar y pryd, a dal yn agos i’r ddwy ochr o’r teulu.
Cafodd y tŷ yn Ynystawe ei adeiladu yn y 1990au. Roedd y perchnogion cynt wedi gwneud e’n hyfryd, ond roedd y papur wal yn matshio’r cyrtens ac yn binc a gwyrdd i gyd, a lot o bren tywyll, felly roedd angen lot o waith cosmetig a newid e i’n tâst ein hunain. Oedd dau garej yn rhan o’r tŷ, a wnaethon ni newid y garej i un stafell fawr gyda chegin, lle bwyta a stafell deledu. O’n i ryw 30 wythnos yn feichiog gyda Morgan felly roedd e’n esgus i beidio gwneud lot o’r gwaith! Mae’r ddau ohonon ni yn licio tai ac yn mwynhau prynu a gwerthu a gwneud nhw lan. Gyda chalon drom ry’n ni’n rhoi’r tŷ yma ar y farchnad cyn bo hir ac yn dechrau pennod newydd i ni fel teulu yn ardal Caerdydd.
Ry’n ni’n treulio lot o amser yn y stafell open plan lle mae’r gegin, sy’n edrych dros yr ardd. Ond falle fy hoff stafell ydy’r lolfa orau – does fawr neb yn mynd mewn ar wahân i amser Dolig felly mae’n lle eitha’ tawel a calming, ac mae lle tân ynddi. Gyda dau fachgen, sydd bellach yn 17 a 19 oed, mae’n stafell ni ddim yn defnyddio’n ddyddiol ond ni’n mynd mewn yn fwy aml nawr.
Mae gyda fi gwpl o eitemau celf sy’n agos iawn at fy nghalon. Pan o’n i’n disgwyl Morgan roedd ‘na arwerthiant yn gwerthu gwaith yr artist Josef Herman, ac fe brynon ni lun mam a’i phlentyn, First Born. Ro’n i’n ffrindiau mawr efo’r artist, y diweddar Mike Jones ac roedd e wedi rhoi darlun i ni fel anrheg pan gafodd Morgan ei eni, sef ei fersiwn e o First Born. Mae’r ddau ddarlun nesa i’w gilydd yn y cyntedd ac maen nhw’n werthfawr iawn o ran yr elfen bersonol.
Roedd Norah Isaac [yr awdur a dramodydd] yn ffrind mawr i’r teulu. Dw i’n cofio mynd lawr i’w gweld hi a dyma hi’n gofyn os o’n i moyn rhywbeth o’r tŷ yng Nghaerfyrddin. Roedd ganddi ddarn o grochenwaith yn dangos tad, mam a phlentyn i gyd wedi ymblygu mewn i’w gilydd. Ar ddiwrnod ein priodas, fe fethodd hi ddod ond roedd hi wedi rhoi’r darn o waith celf i ni fel anrheg briodas.
Dw i wedi colli’n rhieni ers rhai blynyddoedd ond mae hen ddresel Gymreig oedd wedi dod gan Mam sy’n arbennig iawn i ni, a dau ddarlun o waith [yr artist] Joanna Jones o Parog Trefdraeth, ardal sy’n agos iawn at ein calonnau. Dw i’n dwli ar ei gwaith hi.
Dyw ein cartref ni ddim yn show home o gwbl – mae’n gartref i’r pedwar ohonon ni, y ci a’r gath. Mae e’n gyfforddus, ac yn gartre’ lle mae croeso i bawb, a’r drws wastad yn agored.
Mae Tŷ am Ddim ar gael ar S4C Clic
Mae The Great House Giveaway ar Channel 4 ar hyn o bryd