Efallai nad yw Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd at ddant pawb, ond mae’r digwyddiad blynyddol, sy’n cael ei gynnal yn nhref Llanwrtyd ym Mhowys ddydd Sul (Awst 25), yn denu cannoedd o gystadleuwyr o bob rhan o’r byd.

Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd Llun: Peter Barnett

Dechreuodd y digwyddiad yn 1986 er mwyn rhoi Llanwrtyd “ar y map” ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

Neil Rutter, enillydd Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd y llynedd, a oedd wedi ennill am y bumed flwyddyn yn olynol Llun: Peter Barnett

Y bwriad yw ceisio snorclo dros 120 llath yn yr amser cyflymaf posib – cafodd record ei osod y llynedd gan Neil Rutter a orffennodd mewn munud a 12.34 eiliad. Dyma’r pumed tro iddo ennill y gystadleuaeth ac mae o bellach wedi ymddeol o’r gamp. Mae cystadleuaeth hefyd ar gyfer rhai mewn gwisg ffansi ond mae’n rhaid iddyn nhw snorclo 60 llath er mwyn bod yn y categori yma.

Mae pobl yn cael eu hannog i gystadlu mewn gwisg ffansi Llun: Peter Barnett

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng nghors Waen Rhydd ar gyrion y dre ac yn dechrau tua 10yb.

I’r rhai sydd ddim am fentro i’r dŵr mae stondinau bwyd a diod, crefftau, cerddoriaeth fyw a bar ar y safle.