Dalier sylw! Echdoe (dydd Gwener, Awst 23), cafodd rhestr o chwe firws sydd yn ymosod yn benodol ar galedwedd a meddalwedd eglwysig ei chyhoeddi. Dyma nhw:
BETAMAX: O dan effaith y firws yma, mae crefydd yn troi’n fater o edrych yn ôl i’r good ol’ days. Arwydd cyntaf y firws yw gorganu geiriau David Davies, Penarth (1849-1926): Ofni’r ydym, Dduw ein tadau/Mai rhy rwydd ein llwybr ni…
Ymlaen i’r nesa’: BOBTHEBUILDING. Argyhoedda’r firws yma mai diogelu capel yw pennaf nod y bywyd crefyddol. Pe bai sôn am gau capel, hyd yn oed pan fo pob ystyriaeth resymol yn galw am hynny, mae cyhuddiadau o amharchu’r hen ffyddloniaid fu’n ei gynnal ers lawer dydd, hynny yw yn y good ol’ days.
JAFFA yw’r feirws nesa’. Feirws sy’n peri i ambell eglwys leol feddwl ei bod hi ychydig yn well nag eglwysi eraill – yn gacen, megis, ymhlith y bisgedi cyffredin. DERRIÈRE wedyn: fe beri’r feirws hwn i ni feddwl mai’r grefydd sy’n tynnu’r dorf yw’r unig grefydd effeithiol: hanfod crefydd a chrefydda yw nifer y penolau ar y pitch pine. Yr olaf ond un yw’r LORDLUCAN: O dan effaith y firws yma, mae pobol yn diflannu pan fo gwaith i’w wneud neu broblem i’w datrys yn yr eglwys. Ar ddiwedd y rhestr mae DEUDEICHDEUD: firws sy’n ymosod yn benodol ar weinidogion ac arweinwyr. Gall effeithiau’r feirws beryglu ei (g)yrfa. Wedi blynyddoedd weithiau o frathu tafod a llyncu balchder, fe ddywed y gweinidog, go iawn ac yn go blaen, ei f/meddwl am rywbeth neu rywun.
Dylid nodi un firws arall – firws sydd yn targedu Cymry Cymraeg yn benodol, sef OHSOOOHENFFASIWN. Dychmygwch yr olygfa: mewn tŷ yn llawn period features – mae’r tai newydd yma mor ddigymeriad, on’d ydyn nhw? – gan eistedd ar gadeiriau tad-cu, wrth hen fwrdd derw o’r siop hen bethau. Dyma seld Wncwl Dai yn llawn hen lestri; a sampler Modryb Sali ar y wal, dros baned, fe gyfyd sgwrs rhwng gweinidog a chyfaill iddo sydd yn ystyried ei hun yn Gymro ôl-grefyddol, am werth crefydd a chapel – “O, na,” meddai’r cyfaill hwnnw, “Dim i fi; mae capel yn soooo hen ffasiwn!”