Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

The Girl With The Red Hair gan Buzzy Jackson. Stori sy’n seiliedig ar hanes go-iawn yr arwres Hannie Schaft a adawodd y brifysgol yn Amsterdam i weithio i’r ‘Resistance’. Dw i’n darllen ffuglen bron bob tro ond yn mwynhau cofiannau a hunangofiannau am bobol ysbrydoledig.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd