Mae cricedwyr Morgannwg yn edrych ymlaen at ffeinal fawr yn Nottingham…

Ychydig iawn o dlysau enillodd Clwb Criced Morgannwg dros y blynyddoedd. Gyda phob tlws, daw torf newydd o gefnogwyr i ymfalchïo yn llwyddiannau’r sir. Ac mae prif hyfforddwr tîm criced Morgannwg yn anelu i ddiddanu’r dorf pan fyddan nhw’n heidio i Trent Bridge yn Nottingham fis nesaf ar gyfer rownd derfynol Cwpan Undydd Metro Bank.