Ychydig o wythnosau yn ôl wnes i awgrymu y bydde’r criw fyddai Craig Bellamy yn ei ddewis ar gyfer ei dîm hyfforddi bron mor bwysig ag apwyntiad y rheolwr ei hun. Wel yr wythnos ddiwethaf datgelodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru pwy sydd am gynorthwyo’r prif reolwr. Mae Bellamy wedi gweithio gyda bob un o’r hyfforddwyr dan sylw, un ai fel chwaraewr neu hyfforddwr.