Wythnos yma dwi wedi bod wrthi yn meddwl am fy nhad-cu diweddar, Kenrick. Ar y penwythnos es i i garnifal Notting  Hill, sy’n ddathliad blynyddol bywiog o ddiwylliant Caribïaidd yn Llundain; yn cynnwys gorymdeithiau lliwgar, bwydydd blasus a cherddoriaeth egnïol.

Mudodd fy nhad-cu pan oedd yn ei arddegau o drefedigaeth Brydeinig Barbados, yn ystod y cyfnod Windrush i orllewin Llundain. A chyn imi ymuno â’r carnifal, wnes i fanteisio ar y cyfle i ymweld ȃ’i hen gynefin.