Wythnos diwethaf oedd yr wythfed Gŵyl y Dyn Gwyrdd i mi a fy nghwmni theatr Dan Yr Haul fynychu.
Bob blwyddyn rydym ni’n hwyluso gweithdai Drama a Cherddoriaeth gyda theuluoedd yn ystod yr wythnos, ac wedyn yn dathlu dros y penwythnos. Roedd y flwyddyn yma yn un arbennig oherwydd roedd fy mand The Mermerings hefyd yn chwarae’r ŵyl. Roedd y gig yn un hyfryd – tua 100 o bobl yn gwylio ni ar y llwyfan ‘Solar’ yng Ngardd Einstein gyda’r haul yn tywynnu a hen ffrindiau yn gwylio ni’n chwarae am y tro cyntaf.
Mae o wedi cynhyrfu fi ar gyfer recordio ein caneuon yn yr Hydref – rydw i methu aros i ryddhau cerddoriaeth newydd.
Roedd y Dyn Gwyrdd yma yn un ble roeddwn i a Molly (hanner arall fy mand, a’r un rwy’n hwyluso gweithdai gyda phob blwyddyn) yn darganfod llefydd ‘cyfrinachol’ yn yr ŵyl sydd ddim yn cael ei farchnata, ac ond yn cael eu datgelu wrth i bobl siarad gyda’i gilydd.
Y lle cyntaf oedd y babell “Wishbone”, ble rydych chi’n mynd trwy siop i far a phabell ble mae perfformiadau cabaret a drag yn digwydd. Mae celf cwiar yn addurno’r gwagle ac fe gefais i un o’r ugain munudau gore o berfformiad drag yr wyf erioed wedi ei weld: y frenhines ‘Fruit n Fiber’ (ei henw drag go-iawn!) yn gwneud darn ble nhw “oedd” Y Dyn Gwyrdd – yn defnyddio caneuon gwych fel ‘Jammin’ gan Stevie Wonder a ‘Dreams’ gan Fleetwood Mac i fynd â’r gynulleidfa trwy brif rannau’r ŵyl; ar ôl cael y gynulleidfa i glymu eu breuddwydion i’w glogyn aethon nhw “ar dân” gyda ffans coch a melyn yn canu ‘Burn Baby Burn’.
Dyma adlais o’r hyn sy’n digwydd bob blwyddyn wrth gau’r ŵyl – gyda’r Dyn Gwyrdd pren (sydd tua ugain troedfedd o uchder, ac wedi ei sefydlu yng nghanol y maes) yn cael ei losgi, gyda breuddwydion a dymuniadau’r cyhoedd wedi eu clymu iddo. Mae’n Baganaidd iawn, ac rwy’n ei hoffi’n fawr oherwydd hyn.
Yr ail le cyfrinachol wnaethon ni ddarganfod oedd bar ar gyfer perfformwyr ble oeddech chi’n camu lawr twnnel glas llawn cymylau wedi eu gwneud o wlân cotwm.
Roeddech chi yn cael eich “geni” (wir i chi! Wna i ddim mynd mewn i fwy o fanylder!) mewn i far lliwgar ble oedd bob diod yn tua £2 yn rhatach. Arbennig.
Rwy’n caru gwagleoedd sy’n defnyddio elfennau chwareus wedi eu hysbrydoli gan blentyndod i greu llefydd i oedolion eu mwynhau. Yn aml rwy’n gwneud hyn gyda fy setiau ar gyfer sioeau. Mae gwyliau yn aml yn rhoi’r gwagle i ni gysylltu gydag ein plentyn mewnol. Dawnsio, gwisgo fyny, paentio wynebau gyda phaent a glitter a chymdeithasu heb ddim o’r strwythur arferol… maen nhw’n caniatáu i fi gael bach o ‘re-set’. Ac wrth wylio bandie newydd mae yn siawns i fi gael fy ysbrydoli yn gerddorol hefyd.
Y flwyddyn gyntaf aethon ni i Ŵyl Y Dyn Gwyrdd, fe wnes i a Molly ddawnsio am tua chwech i wyth awr y noson. Nawr yn ein tridegau, dim ond rhwng tair a phedair awr rydyn ni’n para! Mae o wastad yn wythnos sy’n helpu fi i brosesu prysurdeb y flwyddyn. Ac mae codi a gweld tirwedd anhygoel Bannau Brycheiniog bob bore yn fy atgoffa o ba mor lwcus ydyn ni i gael gŵyl mor arbennig yng Nghymru. Dyma yw ein Glastonbury Cymreig.