Portread o Llio Maddocks

Mae Cyfarwyddwr y Celfyddydau’r Urdd yn fardd ac awdur di-flewyn-ar-dafod sy’n rhannu cerddi byrion ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn aml, mae Llio Maddocks yn rhannu barddoniaeth fachog ar Instagram yn ymateb i bynciau sydd ar y newyddion neu’n tynnu ar y profiad o fod yn ferch.

Cafodd ei nofel gyntaf, Twll Bach yn y Niwl, ei chyhoeddi yn 2020, ac mae hi ar ganol sgrifennu nofel i bobol ifanc.