Mae drama newydd sy’n cynnwys cast o 24 o bobol ifanc yn plethu newid hinsawdd a galar gyda’r Gymraeg a’r Saesneg.

Y dramodwyr Mared Llywelyn a Steven Kavuma sydd wedi sgrifennu Dal Gafael / Hold On, fydd yn ymweld â Chaerdydd a Chaernarfon.

Mae’r cynhyrchiad yn gywaith rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Fio, a bydd y bobol ifanc – i gyd rhwng 16 a 22 oed – yn cael perfformio’r ddrama bedair gwaith yr wythnos nesaf.