Mae pennaeth Ysgol Cwm Rhymni yn dweud ei fod yn “ymfalchïo” yn llwyddiant disgyblion TGAU yr ysgol, ar ôl iddyn nhw “ddyfalbarhau”.
Yn ôl Matthew Webb, mae canlyniadau’r ysgol yn debyg iawn i’r hyn oedden nhw cyn y pandemig Covid-19 yn 2019, ac mae’n “bles iawn gyda’r disgyblion, sydd wedi gwneud yn dda iawn”.
Ychwanega ei bod hi’n “galonogol iawn ar gyfer addysg Gymraeg” yn sir Caerffili fod cynifer o’r disgyblion yn bwriadu dychwelyd i’r Chweched Dosbarth.
“Dwi’n bles iawn gyda pherfformiad y flwyddyn i gyd,” meddai wrth golwg360.
“Dydyn nhw ddim wedi ei chael yn rhwydd yn ystod y pandemig, wrth gwrs.
“Dechreuodd Blwyddyn 11 eleni yr ysgol uwchradd yn ystod y pandemig, felly mae eu haddysg nhw wedi cael ei difetha i ryw raddau.
“Mae ffiniau graddau wedi dychwelyd i’r lefelau cyn Covid, felly dw i’n hapus iawn gyda’r canlyniadau, a byddwn yn sicr yn dathlu fel ysgol.”
Dyfalbarhad mewn argyfwng
Mae Matthew Webb yn dweud ei fod yn falch iawn o’r rheini oedd wedi sefyll eu harholiadau eleni, ac yn llongyfarch eu hymdrechion dros y blynyddoedd.
“Maen nhw wedi gorfod dangos lot o ddyfalbarhad, yn enwedig wrth ddechrau yn yr ysgol uwchradd,” meddai.
“Ond hefyd, dyfalbarhad wrth astudio am eu TGAU yn ystod Blwyddyn 10 ac 11.
“Maen nhw’n flwyddyn hyfryd iawn a sbesial iawn, a dw i’n falch iawn nawr o weld ffrwyth eu llafur nhw gyda set o ganlyniadau da iawn heddiw.”
Er ei fod yn credu mai’r pandemig yw un o’r heriau mwyaf i Flwyddyn 11 eleni, mae’n credu bod yr argyfwng costau byw hefyd yn her arall maen nhw wedi’i goresgyn.
“Mae’r argyfwng costau byw dal yn bwrw nifer o’n teuluoedd ni, sydd, wrth gwrs, yn bwrw ein plant o ran eu hiechyd a’u lles, ond eu haddysg nhw yn yr ysgol hefyd,” meddai.
“Nid jyst dod dros y pandemig oedd rhaid iddyn nhw ei wneud, ond mae popeth sydd wedi digwydd ar ôl y pandemig yn rhywbeth mae’n rhaid i ni ffactoro i mewn fel ysgol, a gwneud yn siŵr ein bod yn cefnogi ein plant o ran eu hiechyd, eu lles a’u cynnydd academaidd.”
Aeth golwg360 i gampws Gellihaf i holi rhai o’r disgyblion am eu canlyniadau.
Dywedodd un, Amy, ei bod hi’n “teimlo’n dda iawn” am ei chanlyniadau, a’i bod hi wedi gwneud yn well na’r disgwyl.
“Aeth yr arholiadau’n eitha’ da,” meddai.
“Y rhai ieithoedd oedd y rhai caletaf, efallai oherwydd dw i jyst ddim mor dda ynddyn nhw, ond wnes i mor dda ag oeddwn yn gallu, so dw i’n hapus.”
Bydd hi’n dychwelyd i’r Chweched Dosbarth er mwyn astudio Mathemateg, Mathemateg Bellach, Daearyddiaeth a Ffiseg.
“Dw i ddim yn credu fy mod i’n mynd i newid fy newisiadau oherwydd fy nghanlyniadau,” meddai.
“Roedd popeth yn dibynnu ar hyn, ac mae fy nghanlyniadau yn ei gadarnhau.”
Un arall oedd wedi gwneud yn well na’r disgwyl yw Megan.
“Dw i jyst yn hapus!” meddai.
“Doeddwn i ddim wedi meddwl bod yr arholiadau wedi mynd yn rhy dda, ond mae’r graddau yn well nag oeddwn yn disgwyl.
“Dw i eisiau mynd i’r Chweched nesaf, i wneud Gwyddoniaeth ac efallai Mathemateg – dw i ddim yn siŵr eto!”
Roedd Lexi hefyd wedi derbyn canlyniadau da iawn.
“Cefais As, ond dw i ddim wedi llwyddo mewn Mathemateg Lefel 2. Er, roeddwn i’n gwybod hwnna, so mae’n fine!
“Dw i’n hapus.
“Wnes i wneud yn well nag oeddwn i’n meddwl fy mod i wedi gwneud.
“Dwi’n aros i’r Chweched nawr.
“Dw i eisiau gwneud Cemeg, Bioleg a Ffiseg, ond dw i ddim yn siŵr, gan fy mod i wedi cael A yn lle A*, felly dw i’n obeithiol!”
Ond un sydd wedi cael ychydig o siom yw Maisie.
Er gwaetha’r canlyniadau cadarnhaol i nifer, roedd hi’n gobeithio derbyn canlyniadau gwell.
“Dw i’n teimlo’n iawn am y canlyniadau,” meddai.
“Roeddwn i eisiau gwneud yn well, ond maen nhw’n iawn.
“Roedd yr arholiadau eu hunain yn iawn.
“Os oeddwn i wedi adolygu yn fwy, byddwn i wedi gwneud llawer yn well – ond mae’n gymaint o ymdrech!”
“Y cam nesaf? Chweched Dosbarth!”