Mae Aelodau’r Senedd wedi galw ar Gyngor Caerffili i sicrhau dyfodol Maenordy Llancaiach Fawr a Sefydliad y Glowyr yn y Coed Duon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu rhoi’r gorau i gymorthdaliadau i’r ddau leoliad erbyn diwedd mis Rhagfyr, a hynny er mwyn arbed arian.
Erbyn hyn, mae deiseb yn galw am achub Sefydliad y Glowyr a Maenordy Llancaiach wedi denu dros 5,200 o lofnodion.
Yn ogystal, mae Delyth Jewell a Peredur Owen Griffiths yn awyddus i’r Cyngor ailystyried toriadau i’w gwasanaeth Pryd ar Glud.
‘Sefydliadau lleol annwyl’
Mewn llythyr at y Cynghorydd Sean Morgan, arweinydd Cyngor Caerffili, mae’r ddau’n gofyn i’r Cyngor ailfeddwl am y newidiadau.
“Mae Llancaiach Fawr a Sefydliad y Glowyr Choed Duon yn sefydliadau lleol annwyl, ac rydym yn bryderus iawn, os ydyn nhw’n cau nawr, na fyddan nhw’n ailagor,” meddai Delyth Jewell a Peredur Owen Griffiths, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru yn y Senedd, mewn datganiad ar y cyd.
“Mae safleoedd fel y rhain yn gonglfeini i’r gymuned: yn syml, rhaid eu hachub.
“Pan ddaw i Lancaiach Fawr, roedd rhagflaenydd y Cyngor, Cyngor Dosbarth Cwm Rhymni, yn ddigon rhagweledol i achub y maenordy rhag ebargofiant posibl – daethon nhw ag e i berchnogaeth gyhoeddus yn 1979, ac ers hynny bydd miliynau wedi’u gwario ar adfer a chynnal a chadw.
“Mae wedi’i droi’n atyniad mawr i dwristiaid, sydd hefyd yn helpu i addysgu plant o bob rhan o’r cymoedd am ein hanes.
“Gallai’r holl fuddsoddiad hwnnw ddod i ddim os caiff ei gau ac nad yw’n ailagor.
“Mae’n safle sydd ag arwyddocâd i’r genedl ehangach a’n hanes a rennir, a gobeithiwn bod modd cynnal trafodaethau i gael cefnogaeth o’r tu allan i’r ardal, os oes angen, i’w achub.”
Mae deiseb yn galw am achub Sefydliad y Glowyr a Maenordy Llancaiach wedi denu dros 5,200 o lofnodion erbyn hyn.
‘Gwaethygu unigrwydd’
Ychwanega’r ddau Aelod o’r Senedd eu bod nhw’n poeni sut y gallai toriadau i’r Gwasanaeth Prydau Uniongyrchol “effeithio ar bobol fregus” drwy waethygu teimladau o unigrwydd.
“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyngor wedi cael ei feirniadu am gadw symiau sylweddol o arian mewn cronfeydd wrth gefn, ac am wario symiau uchel i ddatrys anghydfodau gydag uwch swyddogion,” medden nhw.
“Ni all ein treftadaeth leol ddod yn ddifrod cyfochrog o ganlyniad – ac ni all ychwaith y gwasanaethau y mae pobl agored i niwed yn dibynnu arnynt.
“Gobeithiwn yn ddiffuant y gellir dod o hyd i gefnogaeth i atal y toriadau llym hyn rhag digwydd.”
‘Archwilio pob opsiwn’
Cafodd y cynlluniau i roi’r gorau i roi cymorthdaliadau i Sefydliad y Glowyr a Maenordy Llancaiach eu cyhoeddi ddiwedd mis Gorffennaf, a dywed Sean Morgan nad yw hi’n bosib parhau i redeg gwasanaethau fel y maen nhw.
“Rhaid i ni archwilio pob opsiwn ac ystyried ffyrdd o wneud pethau’n wahanol,” meddai.
“Dw i eisiau bod yn onest gyda’r gymuned, oherwydd mae’n glir o raddfa’r arbedion fod rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd iawn dros y misoedd nesaf.”
Bydd ymgynghoriad ar y cynlluniau ar agor tan Fedi 10.