Mae nifer o ganghennau cwmni ceir Ron Skinner & Sons wedi bod yn ymateb i’r tân mawr oedd wedi difrodi’r safle yn Nhredegar nos Wener (Awst 16).
Dechreuodd y tân yn hwyr y nos, ac roedd wedi cael ei ddiffodd erbyn prynhawn Sadwrn (Awst 17).
Ymatebodd tua 100 o ddiffoddwyr tân i’r alwad.
Dinistriodd y tân gangen Tredegar y cwmni gwerthwyr ceir.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod nhw wedi ymateb i’r tân am oddeutu 1 o’r gloch y bore, ac fe wnaethon nhw ofyn i’r cyhoedd “osgoi’r ardal ac i adael ein criwiau i ymateb yn gyflym gan atal tagfeydd traffig ychwanegol, a chloi unrhyw ffenestri a drysau”.
Erbyn tua 9 o’r gloch fore Sadwrn, roedden nhw wedi trechu’r tân ddigon er mwyn agor Parc Bryn Bach ger safle Ron Skinner & Sons.
Chafodd neb anafiadau, a chyhoeddodd y Gwasanaeth Tân eu bod nhw wedi agor ymchwiliad “wrth i’r digwyddiad symud i mewn i’r cyfnod adferiad” er mwyn darganfod beth oedd wedi achosi’r tân.
“Diolch i’r gymuned leol am eich cefnogaeth barhaus,” meddai’r Gwasanaeth Tân bryd hynny.
Yr ymateb lleol
Wedi i’r tân dawelu rywfaint ddydd Sul (Awst 18), ymatebodd pob cangen o Ron Skinner & Sons i’r tân gyda fideos ar Facebook.
Galwodd James Taylor, Rheolwr Gwerthu i Ron Skinner & Sons yn Nhredegar, y tân yn “ddifrodus i deulu Ron Skinner & Sons a phob un o’u gweithwyr”.
“Dw i jyst am ddweud diolch enfawr am y gefnogaeth mae pawb wedi ei rhoi i ni, a phob un o’r negeseuon calonnog,” meddai.
Dywedodd tîm Neyland a Chaerdydd fod y “24 awr diwethaf wedi bod yn anodd inni gyd, felly rydym am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth”.
Un arall fu’n diolch yw Anthony Stevens, un o weithwyr Ron Skinner & Sons Crosshands, sy’n dweud bod cefnogaeth y cyhoedd “yn meddwl y byd inni”.
‘Cyflogwr enfawr’
Yn ôl Claire Harris, sy’n gweithio yn nhafarn y Nags Head yn Nhredegar, mae Ron Skinner & Sons yn “gyflogwr enfawr yn yr ardal”.
“Os wyt ti’n edrych ar geir yr ardal, mae bron pob un â sticer sy’n dweud ‘Ron Skinner & Sons’ arno,” meddai wrth golwg360.
“Cafodd y busnes ei sefydlu cyn i fi gael fy ngeni, Felly, fel nifer o bobol eraill, wnes i dyfu i fyny yn gwylio’r busnes yn tyfu ar yr un pryd.
“Mae’n siom anferthol i’r gymuned i weld bod busnes mor fawr wedi’i ddinistrio.”
“Rydym yn meddwl am bawb sy’n ymwneud â Ron Skinner & Sons,” meddai mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Rydych i gyd fel teulu estynedig i ni yn y Nags Head, a dymunwn y gorau i chi wrth symud ymlaen.”