Gallai stablau oedd yn rhan o hen ysgol farchogaeth yn Sir y Fflint gael eu dymchwel i greu lle ar gyfer chwe bwthyn gwyliau.
Mae cais wedi’i gyflwyno i Gyngor Sir y Fflint i ddymchwel adeiladau ar safle Iard Cadw ac Ymarfer Ceffylau Penpalmant ger Treffynnon.
Byddai’r cynigion gan Clive ac Yvonne Crofts yn gweld chwe llety gwyliau hunangynhaliol yn cael eu creu yn eu lle, a hynny’n rhan o deras â phatio a gerddi ym mhob eiddo.
Cyn hyn, roedd y safle ar Lôn Llwyn-Ifor, rhwng Mertyn a Pharc Pennant, yn gartref i ysgol farchogaeth a chlwb poni.
Ond yn dilyn cau’r safle, mae lle i gredu bod y tri bloc stablau wedi cael eu defnyddio’n bennaf fel storfeydd.
Ateb y galw
Yn ôl asiantiaid ar ran yr ymgeiswyr, byddai’r llety newydd yn helpu i ateb y galw am lefydd gan dwristiaid i aros yn yr ardal leol.
Mewn datganiad cynllunio gafodd ei gyflwyno i’r awdurdod lleol, dywedon nhw fod “y cais yn ceisio manteisio ar y twf mewn twristiaeth ddomestig a’r cynnydd yn y galw am wyliau ‘aros gartref’ cefn gwlad yn y Deyrnas Unedig”.
“Yn dilyn cau’r ysgol farchogaeth, mae’r stablau wedi bod yn wag i raddau helaeth ac wedi cael eu defnyddio fel storfeydd gan yr ymgeisydd.
“Felly, mae’r ymgeisydd yn credu y byddai cynlluniau i ddymchwel tri adeilad y stablau a’u disodli nhw â llety gwyliau’n golygu defnydd mwy effeithlon o dir yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.
“Bydd y datblygiad twristaidd hwn yn gwneud defnydd cynaliadwy ac effeithlon o safle presennol gafodd ei ddatblygu eisoes, sy’n hygyrch o ran rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus, llwybrau seiclo, llwybrau marchogaeth ac arosfannau bws lleol.
“Bydd y cais yn cael ei annog mewn modd gweithredol gan Gyngor Sir y Fflint o ganlyniad i’w gyfraniad i’r economi drwy wariant gan ymwelwyr, ei gefnogaeth i fusnesau lleol, a swyddi’n cael eu creu.
“Mae’r digonedd o gyfleusterau lleol a chyfleoedd ar gyfer teithio actif yn sicrhau na fydd y datblygiad yn ddibynnol ar y defnydd o gerbydau modur preifat.”
Mae gwahoddiad wedi’i gyhoeddi ar gyfer sylwadau ynghylch y cais drwy wefan y Cyngor, ac mae disgwyl penderfyniad maes o law.