Er bod diogelu a gwarchod yr amgylchedd yn bwnc llosg parhaus, faint o bobol sydd wir yn deall goblygiadau taflu sbwriel?
Un man tu hwnt o boblogaidd ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw’r Wyddfa, ac yn ôl ystadegau’r Parc mae tua 600,000 o bobol yn dringo mynydd uchaf Cymru bob blwyddyn.
Ond o’r 600,000 o ymwelwyr hyn, faint ohonyn nhw sy’n mynd â’u sbwriel adref efo nhw?
Bu Ffion Warner ac Alun Gethin Jones, Wardeiniaid Ardal yr Wyddfa, yn siarad â golwg360 am y cynlluniau sydd ar y gweill i ddiogelu’r mynydd, ac maen nhw’n dweud bod y sbwriel sydd yno wedi bod yn broblem erioed.
Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos eu bod nhw wedi casglu 1086kg o sbwriel, sef 541 bag sbwriel, ers Mawrth 31, sy’n swm dychrynllyd.
Yn dilyn yr ystadegau hyn, dywed Alun Gethin Jones ei bod yn “frawychus faint o sbwriel sy’n cael ei ddarganfod ar y mynydd”.
Mae wedi bod yn gweithio fel Warden i’r Parc ers pum mlynedd, a dywed ei bod yn hollbwysig fod ymwelwyr yn gwrando, yn cynllunio ac yn paratoi eu taith.
“Cadwch yr Wyddfa’n barchus, a chadwch yr ardal fel ydach chi’n ei ffeindio hi,” meddai.
Wardeiniaid Gwirfoddol
Yn gweithio gyda’r Wardeiniaid llawn amser mae tîm o 51 o Wardeiniaid gwirfoddol, sy’n gwneud gwaith diflino o ddiogelu’r Wyddfa ac Eryri.
Mae dyletswyddau’r wardeiniaid hyn yn cynnwys cynorthwyo wardeiniaid yr ardal i gynnal a chadw’r llwybrau, a darparu gwybodaeth angenrheidiol, cyngor ac arweiniaid i ymwelwyr.
Ond maen nhw hefyd yn ymgymryd â rôl hollbwysig arall, sef casglu sbwriel.
Mae cynllun wedi’i roi ar waith er mwyn mesur faint o sbwriel mae gwirfoddolwyr yn ei gasglu bob shifft – a hynny oddi ar lawr y mynydd ei hun yn unig, yn hytrach na’u derbyn yn uniongyrchol gan unigolion.
Mae’r cynllun hwn mewn grym ers bron i ddegawd, ond yn ddiweddar mae’r ystadegau ynghylch casglu sbwriel wedi’u trawsnewid o fod yn rhai ar bapur i fod yn rhai electronig.
Yn ôl Ffion Warner, un o’r cwestiynau maen nhw’n ei dderbyn amlaf ydi “A oes biniau ar y ffordd i fyny?”, gydag ymwelwyr yn dychryn wrth sylweddoli bod rhaid iddyn nhw gario eu sbwriel efo nhw.
Yn amlwg, byddai rhoi biniau ar y llwybrau yn annog sbwriel, felly yr ateb syml yw peidio â darparu biniau, meddai.
Ar y cyfan, ymateb positif sydd wedi bod ymhlith cerddwyr.
Treialu cynllun newydd
Dywed Ffion Warner eu bod nhw’n treialu cynllun newydd, sef tynnu biniau o’u meysydd parcio, gydag arwyddion wedi’u gosod yn hysbysu ymwelwyr i fynd â’u sbwriel adref gyda nhw.
“Pan dw i’n ymweld â’r meysydd parcio a rhywun yn digwydd gofyn am y biniau, mae’n rhaid i fi egluro’r peth,” meddai.
“Ond mae’n rhaid i fi ddweud bod yr ymatebion rydan ni wedi’u cael yn amrywio, gyda rhai yn meddwl ei fod yn syniad gwych ac eraill yn meddwl ei fod yn syniad stiwpid!
“Un o’r problemau mwyaf hefyd rydan ni’n eu cael yw bagiau baw cŵn.
“Ond yn hanesyddol, mae pobol wedi bod yn defnyddio biniau cŵn i roi sbwriel cyffredinol.
“Felly, dych chi methu ennill!”
Her y Tri Chopa
Un broblem gynyddol maen nhw wedi’i gweld dros y blynyddoedd diwethaf yw’r sbwriel sy’n deillio o Her y Tri Chopa.
Gan mai’r Wyddfa yw’r lleoliad olaf yn yr her, maen nhw’n gweld bod criwiau sy’n cyrraedd llwybr Pen y Pas yn gadael bagiau llawn sbwriel yno.
Erbyn heddiw, mae’r her yn hynod boblogaidd.
Er mai’r brif sialens yw cerdded y mynyddoedd, dywed Ffion Warner ei bod hi’n bwysig fod cerddwyr yn parchu’r mynyddoedd hynny hefyd.
Caru Eryri
Yn cydweithio â Pharc Cenedlaethol Eryri mae Caru Eryri, sef rhaglen wirfoddol sydd ar waith ers pedair blynedd i ddiogelu a gwarchod Eryri.
Fe gychwynnodd y prosiect mewn ymateb i gynnydd ym mhresenoldeb ymwelwyr â’r Parc Cenedlaethol ar ôl y cyfnod clo Covid-19 ac, yn sgil hynny, mae llawer o bwysau yn disgyn ar ardaloedd bregus fel yr Wyddfa, a mwy o broblemau’n codi – fel meysydd parcio’n llawn a mwy o sbwriel.
Mae’r cynllun yn ceisio mynd i’r afael â’r problemau hynny, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Eryri, y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Wrth siarad â golwg360, dywed Etta Trumper, Swyddog Gwirfoddoli a Lles y cynllun, eu bod yn “cael ymateb positif gan ymwelwyr yn gweld pobol allan yn gofalu am y lle ac yn ddiolchgar o hynny”.
Wedi casglu’r sbwriel, mae Caru Eryri yn ei bwyso ac yn ei wahanu rhwng gwastraff a gwastraff ailgylchu.
Er bod ganddyn nhw ddata ers pedair blynedd, eleni oedd y flwyddyn gyntaf iddyn nhw gyfuno’u data gyda’r Wardeiniaid Gwirfoddol, sy’n rhoi trosolwg llawer mwy manwl o’r broblem.
Maen nhw hefyd yn cydweithio â TrashFree Trails, ac mae’r ymgyrch Wyddfa Di-blastig yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem hefyd.
“Mae pawb yn chwarae rhan bwysig iawn,” meddai Etta Trumper wedyn.
Er mai grwpiau bach o wirfoddolwyr sydd ar shifft, maen nhw’n hynod brysur yn casglu sbwriel bob dydd Gwener, Sadwrn a Sul o’r Pasg hyd at ddiwedd Medi, ac yn amrywio llwybrau yn wythnosol.
Pam gwarchod a diogelu’r ardal?
Mae’r Wyddfa wedi’i dynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol, ac mae llawer o nodweddion unigryw yn perthyn iddi.
Mae’n gartref i rywogaethau prin megis Lili’r Wyddfa, ac mae eu lleoliadau wedi’u cadw’n gyfrinachol er mwyn eu gwarchod a’u diogelu.
I nifer, efallai nad yw gwastraff organig fel crwyn banana a chrwyn oren yn ‘sbwriel’ ond, wrth ystyried yr amgylchedd yn ehangach, mae taflu’r crwyn yn gallu niweidio’r amgylchedd lleol.
Mae’n gallu cymryd llawer mwy o amser i fioddiraddio ar yr Wyddfa oherwydd y tywydd ac uchder y tirwedd.
Wrth daflu crwyn banana neu afal, mae modd newid pH y pridd a’i wneud yn asidig, sy’n golygu nad yw’r pridd hwnnw bellach yn ddelfrydol i alluogi rhywogaeth benodol i dyfu a ffynnu.
Dyna pam ei bod hi mor bwysig i beidio â llygru’r ardal wrth daflu sbwriel yn ôl y Wardeiniaid.
“Mae’r mynyddoedd wedi bod yno erioed, dydyn nhw ddim yn mynd i newid,” meddai Ffion Warner wedyn.
“Yr unig beth sy’n mynd i newid ydi agwedd pobol ac rydan ni’n gobeithio am y gorau.”
Felly, mae neges y wardeiniaid a’r gwirfoddolwyr yn syml – parchwch yr amgylchedd a’r ardal.
“Er ein bod yn pwysleisio llawer am gynllunio ymlaen llaw, mae gwrando ac addysgu cyn dod yn bwysig.”