Mae capten tîm criced Morgannwg wedi canmol perfformiad y bowlwyr ar ôl iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol Cwpan Undydd Metro Bank fis nesaf.

Ar ôl curo Swydd Warwick o 32 rhediad yng Nghaerdydd ddoe (dydd Sul, Awst 18), byddan nhw’n wynebu Gwlad yr Haf ar gae Trent Bridge yn Nottingham ar Fedi 22, wrth iddyn nhw anelu i godi’r gwpan am yr eildro ers 2021.

Ar ôl cael eu gwahodd i fatio, roedden nhw’n 90 am bump o fewn 26 pelawd, a bu’n rhaid dibynnu ar Dan Douthwaite (55 heb fod allan), Colin Ingram (47) a Billy Root (46) tua chanol a diwedd y batiad.

Yn y pen draw, llwyddon nhw i gyrraedd 247 am naw yn eu 50 pelawd, ond doedd hi ddim yn edrych fel pe bai hynny am fod yn ddigon.

Pan ddaeth tro Swydd Warwick i fatio, cawson nhw’r amodau yr un mor anodd i fatio ynddyn nhw, fel eu bod nhw hefyd mewn trafferthion mawr ar 62 am chwech.

Cipiodd Douthwaite ddwy wiced am 37 mewn naw pelawd.

Wnaeth y Saeson ddim llwyddo i gyrraedd y nod, er gwaethaf 85 gan Michael Burgess a 35 gan Michael Booth, a cholli o 32 rhediad oedd eu hanes nhw yn y pen draw.

‘Hen gêm ryfedd’

Cafodd natur y gêm ei chrisialu gan Kiran Carlson, oedd wedi dweud wrth golwg360 ar ôl yr ornest ei bod hi’n “hen gêm ryfedd”.

“Yn amlwg, roedd rhywbeth yn y llain ac fe wnaethon ni golli nifer o wicedi cynnar fel y gwnaethon nhw,” meddai.

“Ond dw i’n credu mai Dan Douthwaite wnaeth y gwahaniaeth yn y pen draw.

“Fe ddangosodd e gyda’r bat a’r bêl ei fod e’n gallu newid trywydd gemau ac ennill gemau, a dw i’n credu bod ein bowlwyr ni wedi gwneud yr hyn maen nhw wedi’i wneud drwy gydol y flwyddyn, a llwyddon ni i grafu sgôr roedd modd ei amddiffyn.

“Thema’r gystadleuaeth hon yw gwneud digon ar y dechrau – mae pob un o’r pedwar neu bum batiwr ar y brig wedi’i chael hi’n anodd cael mewn a chael sgôr mawr.

“Ond dw i’n credu mai un peth sy’n ein gwahanu ni a’r timau eraill yw fod gyda ni drefn fatio hir iawn.

“Mae Timm van der Gugten, wrth fatio rhif naw, yn dangos sut mae e’n gallu ein cael ni allan o sefyllfa anodd.”

Bowlwyr sy’n gallu ennill gemau

Tybed sut oedd nerfau chwaraewyr Morgannwg pan oedden nhw’n 90 am bump?

“Doedd y nerfau ddim yn wych!” meddai Kiran Carlson, dan hanner chwerthin.

“Yn amlwg, roedd tipyn o ‘beth ydyn ni wedi’i wneud fan hyn?’

“Ond fe wnaeth Ed Barnard fowlio’n hyfryd ar y brig, ac roedd hi’n anodd ac fe gawson nhw eu gwobrwyo.

“Ond fe wnaethon ni frwydro a chyrraedd y fan lle’r oedd modd ei amddiffyn.

“Mae bowlwyr yn ennill llawer o gemau criced, ac mae Timm [van der Gugten], Macca [Jamie McIlroy], Gorv [Andy Gorvin] a Dan [Douthwaite], ein bowlwyr sêm, wedi bod yn wych.

“Dw i’n credu eu bod nhw wedi cipio 60 a mwy o wicedi rhyngddyn nhw, sy’n anghredadwy.

“Mae hi wedi bod mor braf i’w gweld nhw’n magu hyder a gallu dod i mewn a rhoi cynlluniau ar waith.

“Maen nhw wedi gorfod bowlio dan wahanol amodau – weithiau mae’r bêl wedi symud yn gyflym, weithiau’n araf, ac maen nhw wedi gwneud unrhyw beth sydd wedi cael ei daflu atyn nhw yn hawdd, ac wedi ennill llawer o gemau i ni.

“Mae’r diolch mwyaf iddyn nhw ein bod ni yn y rownd derfynol.”

Hir yw pob aros

Rhwng nawr a’r rownd derfynol ar Fedi 22, mae gan Forgannwg bedair gêm Bencampwriaeth i’w chwarae, wrth iddyn nhw anelu i orffen yn gryf yn y gystadleuaeth honno.

Maen nhw’n bumed yn yr Ail Adran ar hyn o bryd, gydag 19 pwynt yn eu gwahanu nhw a’r ail safle hollbwysig.

“Mae’n amser hir i aros tan y rownd derfynol, felly bydd angen i ni roi ein pennau pêl goch ymlaen am ychydig, a gawn ni weld lle’r ydyn ni pan fyddwn ni’n mynd i’r ffeinal ar Fedi 22,” meddai Kiran Carlson wedyn.

“Gobeithio y byddwn ni’n ennill nifer o gemau pêl goch; byddai hynny’n ddelfrydol.

“Mae rhywfaint o obaith gyda ni [o ennill dyrchafiad] yn y gystadleuaeth bêl goch.

“Waeth beth yw’r fformat, os ydyn ni’n chwarae’n dda ac yn ennill gemau, mae hynny’n help.

“Mae Gwlad yr Haf yn dîm o safon, ac yn amlwg maen nhw am roi her i ni.

“Mae ganddyn nhw chwaraewyr o safon drwyddi draw, felly bydd hi’n gêm ddiddorol.

“Fel rydyn ni wedi’i weld mewn digon o gemau terfynol, gall unrhyw beth ddigwydd, a bydd hi’n wych cael bod yno a mynd amdani.”

‘Dim byd i’w golli’

Dan Douthwaite

Does gan Forgannwg “ddim byd i’w golli” ar Fedi 22, yn ôl Dan Douthwaite.

“Efallai nad oedden ni’n un o’r timau cryfaf pan gafodd Morgannwg ein heffeithio gan y Can Pelen [yn 2021], ond dw i ddim eisiau i ni deimlo fel underdogs chwaith,” meddai wrth golwg360.

“Byddwn ni’n mynd yno, yn gwthio’r frest allan ac yn credu y gallwn ni guro pwy bynnag fydd yn troi i fyny ar y diwrnod.

“Y tro diwethaf i ni chwarae yn erbyn Gwlad yr Haf [yng Nghaerdydd], fe wnaethon ni ddangos ein hunain, felly gobeithio gallwn ni wneud hynny eto.”

Cafodd Morgannwg ddiweddglo digon siomedig i’w hymgyrch ugain pelawd yn y Vitality Blast, ond maen nhw wedi perfformio dipyn gwell yn y gemau 50 pelawd – ond pam?

“Dw i’n credu bod y tymor T20 yn un rhyfedd iawn i ni,” meddai Dan Douthwaite wedyn.

“Fe wnaeth nifer o gemau agos yng nghanol yr ymgyrch gostio’n ddrud i ni, lle’r oedden ni’n credu ein bod ni wedi cau pen y mwdwl arnyn nhw, a wnaeth hynny ein brathu ni.

“Ond fe wnaethon ni orffen yn gryf iawn, oedd wedi rhoi rhywfaint o fomentwm i ni.”

Momentwm

I raddau, mae Morgannwg wedi gallu cynnal y momentwm ers diwedd y Vitality Blast gyda chyn lleied o chwaraewyr allan o ganlyniad i’r Can Pelen.

Dim ond Chris Cooke a Mason Crane fu’n absennol, ar ôl iddyn nhw gael eu dewis gan y Tân Cymreig.

Ar y llaw arall, mae nifer o’r timau eraill wedi colli sawl chwaraewr i’r twrnament dadleuol ac wedi gorfod troi at eu to iau.

“Rydych chi’n clywed pawb yn sôn am fomentwm mewn criced, ond fe gawson ni rywfaint o fomentwm ar ddechrau’r gystadleuaeth hon, ac fe wnaethon ni fwrw iddi,” meddai Dan Douthwaite.

“Rydyn ni’n un o’r timau sydd wedi cael ein heffeithio leiaf gan y Can Pelen eleni, gyda dim ond dau chwaraewr [allan – Chris Cooke a Mason Crane].

“Ond er bod ein tîm ni’n gryf, roedd momentwm yn beth mawr i ni wrth orffen y gystadleuaeth honno’n gryf a dechrau’r un hon.”

Gan fod momentwm mor bwysig, felly, sut fydd Morgannwg yn cynnal y momentwm am fis cyfan cyn y rownd derfynol?

“Dw i ddim yn siŵr,” meddai Dan Douthwaite.

“Mae llawer o griced pêl goch yn y canol, felly bydd llawer o gyrff blinedig.

“Ond dw i’n credu, os gallwn ni reoli’r peth mewn ffordd glyfar, bydd y rownd derfynol honno yn eu canol nhw ganol mis nesaf yn rhywbeth i ni ei thargedu ac edrych ymlaen ati.”

  • Bydd cyfweliad gyda Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg, yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos nesaf.

Morgannwg v Swydd Warwick: Buddugoliaeth i’r sir Gymreig!

Mae Morgannwg ar eu ffordd i Trent Bridge ar Fedi 22