Mae JDS Machinery Rali Ceredigion wedi ategu nad digwyddiad chwaraeon modur yn unig yw’r rali, a’i bod yn fwy na ras ac yn ddathliad o gymuned, addysg a chynaliadwyedd.

Ar benwythnos Awst 30 i Fedi 1, bydd JDS Machinery Rali Ceredigion yn cynnal rownd ym Mhencampwriaeth Ralïo Ewropeaidd yr FIA, gyda’r gystadleuaeth ryngwladol yn dychwelwyd i Gymru am y tro cyntaf ers 28 mlynedd.

Yn ddiweddar, mae trefnwyr y rali wedi bod yn ymgysylltu ag ysgolion lleol a chymunedau i feithrin ymdeimlad o gyffro a’u hymgysylltu ag ysbryd y rali yn ogystal â lansio cystadleuaeth.

Bydd modd i ysgolion ennill hyd at £1,000 i’w wario ar brosiectau amgylcheddol.

Hefyd, caiff cystadleuaeth i blant ei chynnal i ddylunio un o’r ceir rali fydd yn cystadlu yn y rali eleni.

Bu ffocws yr ymweliadau hyn ar ddiogelwch, cynaliadwyedd a sut y gall trigolion lleol ymwneud â’r digwyddiad.

“Meithrin ysbryd o gyffro”

Dywed y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth ar Gyngor Sir Caerfyrddin, a’r Cynghorydd Clive Davies, yr Aelod Cabinet yng Ngheredigion â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio, fod y rali yn “gyfle gwych i uno ein cymunedau ac arddangos y gorau o Ganolbarth a Gorllewin Cymru”.

“Drwy ymgysylltu ag ysgolion a busnesau lleol, mae Rali Ceredigion nid yn unig yn meithrin ysbryd o gyffro a chydweithio ond hefyd yn pwysleisio ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a rhoi hwb i’n heconomi,” medden nhw mewn datganiad ar y cyd.

“Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i roi ein hardal ar y map a thynnu sylw at gynigion unigryw ein rhanbarth i gynulleidfa fyd-eang.”

Busnesau yn cael budd

Gyda’r rali yn denu timau a gyrwyr ralïo gorau o bob cwr o’r byd, mae disgwyl i gynulleidfaoedd rhyngwladol ehangach ymweld â’r ardal.

Oherwydd hyn, mae Rali Ceredigion yn annog busnesau lleol i fod yn rhan annatod o’r digwyddiad.

Maen nhw’n eu hannog i greu seigiau ar fwydlen, addurno ffenest flaen siop i adlewyrchu ysbryd y rali, yn ogystal â hyrwyddo’r rali ar sianelau cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #RaliCeredigion2024.

Wrth ddangos ysbryd y gymuned, y gobaith yw y gall hyn annog ymwelwyr i archwilio a chefnogi busnesau lleol.