Mae Ned Leonard, chwaraewr amryddawn ifanc o Wlad yr Haf sydd â theulu o Gymru, wedi ymuno â Chlwb Criced Morgannwg ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.

Roedd ei fam-gu a’i dad-cu ar ochr ei fam yn hanu o’r Fenni a Thredegar Newydd.

Bowliwr lled gyflym llaw dde yw Ned Leonard, sydd wedi creu argraff yn ystod ymgyrch Gwlad yr Haf i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Undydd Metro Bank.

Bydd y ddwy sir yn herio’i gilydd yn y ffeinal ar Fedi 22.

Cafodd y chwaraewr 22 oed ei addysg yn Ysgol Millfield cyn mynd yn ei flaen i chwarae i Ddyfnaint ar lefel y Siroedd Cenedlaethol ac yna i Academi Gwlad yr Haf.

Cafodd ei gytundeb proffesiynol cyntaf yn 2020 cyn cael ei ddewis i gynrychioli Lloegr dan 19 y tymor hwnnw.

Daeth ei gêm gyntaf i Wlad yr Haf yng Nghwpan Undydd Royal London yn 2021.

Mae’n cael ei adnabod fel bowliwr bygythiol sy’n gallu symud a gwyro’r bêl.

Ymateb

Dywed Ned Leonard ei fod e “wedi cyffroi’n fawr” ar ôl cael y cyfle i ymuno â Morgannwg, sy’n anelu am ddyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth y tymor nesaf.

Dywed Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, ei fod e’n “fowliwr cyflym ifanc talentog â chryn botensial”.

“Mae’n wych cael Ned Leonard ar gael i ni ar ddiwedd y tymor hwn, ac rydym yn gobeithio rhoi cyfleoedd gwerthfawr iddo fe fynegi ei sgiliau digamsyniol,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Cafodd Ned groeso cynnes i’r grŵp, ac mae’n ychwanegu dyfnder i’n stabl o fowlwyr cyflym, sydd i’w groesawu.

“Mae’n wych hefyd fod gan Ned neiniau a theidiau o Gymru, felly mae cysylltiad braf ganddo fe eisoes yma ym Morgannwg.”

Denu bowliwr cyflym o Seland Newydd

Yn y cyfamser, mae Morgannwg hefyd wedi denu’r bowliwr cyflym Fraser Sheat i’r sir ar gyfer gemau ola’r Bencampwriaeth.

Mae e wedi chwarae 33 o gemau dosbarth cyntaf i Canterbury, gan gipio 103 o wicedi ar gyfartaledd o 25 yr un.

Bydd e’n ymuno â’r garfan ar gyfer y gêm oddi cartref yn erbyn Swydd Derby fory (dydd Iau, Awst 22).

Dywed ei fod yn “ddiolchgar iawn ac wedi cyffroi” o gael y cyfle i chwarae i Forgannwg.

“Dw i wedi gobeithio erioed y byddwn i’n cael y cyfle i chwarae ym Mhencampwriaeth y Siroedd, felly dw i’n edrych ymlaen at brofi fy sgiliau, gan fwynhau criced pedwar diwrnod gyda bois Morgannwg a chyfrannu at ambell fuddugoliaeth, gobeithio,” meddai.

Yn ôl Mark Wallace, mae ganddo fe “record ardderchog” mewn criced dosbarth cyntaf yn ei famwlad.

“Mae’n destun cyffro cael croesawu Kiwi arall i mewn i’r amgylchfyd, ac rydym yn edrych ymlaen at weld Fraser yn cael effaith fawr wrth i ni wthio i chwarae criced positif i ennill gemau yn y bloc olaf yma o gemau pêl goch,” meddai Grant Bradburn, sydd hefyd yn hanu o Seland Newydd.