Bydd S4C yn darlledu gemau rygbi dynion Cymru yng nghyfres yr hydref am y ddwy flynedd nesaf.
Bydd Cymru’n herio Ffiji, Awstralia a De Affrica fis Tachwedd eleni.
Yn ôl Graham Davies, Pennaeth Chwaraeon S4C, mae’r cytundeb ar gyfer 2024 a 2025 yn dangos bod S4C yn “gwybod pa mor bwysig yw rygbi Cymru, a’r gemau rhyngwladol, i’n cynulleidfaoedd”.
“Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Warner Bros Discovery,” meddai.
“Rydym yn ddiolchgar i gael y cyfle i gynnig y gemau yma am ddim, yn Gymraeg, ar S4C.”
Bydd S4C yn darlledu cyfres yr hydref yn Gymraeg, tra bydd TNT Sports a Discovery+ yn darlledu’r gemau â sylwebaeth Saesneg.
Dywed Trojan Paillot, Uwch Is-Lywydd Caffaeliadau a Syndicetiau Hawliau Chwaraeon yn Warner Bros Discovery Sports Europe, fod “cyd-ddarlledu gemau tîm cenedlaethol Cymru yn erbyn Ffiji, Awstralia a De Affrica ochr yn ochr â phartner rhagorol fel S4C yn cyd-fynd â’n huchelgais i sicrhau bod y tair gêm ryngwladol hynny ar gael mor eang â phosibl i wylwyr yng Nghymru”.
Y gwrthwynebwyr
Ffiji fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru ar Dachwedd 10, cyn i dîm Warren Gatland groesawu Awstralia ar Dachwedd 17.
Yr her olaf fydd honno yn erbyn De Affrica, pencampwyr Cwpan Rygbi’r Byd 2023, ar Dachwedd 23.
Bydd tair gêm Cymru yng nghyfres yr hydref yn cael eu cynnal yn Stadiwm Principality.
Mae gemau’r hydref yn dilyn haf siomedig i Gymru, ar ôl colli yn erbyn De Affrica yn Twickenham a dwywaith yn erbyn Awstralia.
Gobaith Cymru yw herio dau o dimau gorau’r byd a tharo’n ôl ym mis Tachwedd, cyn cychwyn y Chwe Gwlad yn 2025.
Gemau Cymru yn y gyfres
Cymru v Ffiji – dydd Sul, Tachwedd 10, 1.40yp
Cymru v Awstralia – dydd Sul, Tachwedd 17, 4.10yp
Cymru v De Affrica – dydd Sadwrn, Tachwedd 23, 5.40yh