Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn wynebu dau Gymro wrth iddyn nhw deithio i Derby heddiw (dydd Iau, Awst 22) ar gyfer y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby.

David Lloyd, cyn-gapten Morgannwg sy’n hanu o Wrecsam, yw capten y Saeson, ac mae Aneurin Donald o Abertawe, un arall o gyn-chwaraewyr Morgannwg, hefyd yn y garfan.

Mae dau wyneb newydd yng ngharfan Morgannwg, sef y bowliwr cyflym Fraser Sheat o Seland Newydd a Ned Leonard, y chwaraewr amryddawn sydd wedi ymuno ar fenthyg o Wlad yr Haf tan ddiwedd y tymor.

Mae Sam Northeast yn ôl wrth y llyw ar ôl i Kiran Carlson fod yng ngofal y tîm ar gyfer eu gemau undydd yn y Vitality Blast a Chwpan Undydd Metro Bank.

Hefyd yn dychwelyd mae’r wicedwr Chris Cooke a’r troellwr coes Mason Crane, sydd wedi bod yng ngharfan y Tân Cymreig yn y Can Pelen.

“Mae’n braf cael croesawu ambell wyneb cyfarwydd yn ôl, ac ambell wyneb newydd i’r garfan hefyd, ar gyfer y bloc olaf hollbwysig hwn o gemau pêl goch y tymor hwn,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Mae awyrgylch arbennig yn y garfan, a hyder braf wedi’i fagu o Gwpan Undydd Metro Bank y byddwn ni’n ei gario ymlaen i mewn i’r heriau sydd i ddod yn y Bencampwriaeth.

“Ar ôl cryfhau ein stabal o ran cyflymder, mae gennym ni’r gallu bellach i chwistrellu egni newydd, sydd i’w groesawu, ac i enwi tîm cytbwys o dan unrhyw amodau.”

Y gwrthwynebwyr

O ran y gwrthwynebwyr, mae’r troellwr llaw chwith Jack Morley wedi dychwelyd i’r sir ar fenthyg am ddwy gêm.

Cipiodd e dair wiced yn erbyn Sussex yn ei unig gêm ar fenthyg ym mis Mai.

Mae e wedi dychwelyd i’r sir yn sgil anaf i Alex Thomson.

Mae Matt Lamb a Sam Conners allan ag anafiadau i’w coesau, tra bod Harry Moore yn cael gorffwys.

Mae Aneurin Donald, Pat Brown a Wayne Madsen yn dychwelyd i’r garfan ar ôl bod ynghlwm wrth y Can Pelen.

Ond mae Ross Whiteley yn chwarae i’r Grand Cayman Jaguars yng nghystadleuaeth Max60 ar Ynysoedd y Cayman.

Carfan Swydd Derby: H Came, D Dupavillon, L Reece, A Donald, J Morley, N Potts, B Guest, Z Chappell, P Brown, D Lloyd (capten), A Dal, W Madsen 

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, B Kellaway, N Leonard, B Root, F Sheat, A Tribe, T van der Gugten, W Smale


Yn y cyfamser, mae Morgannwg wedi cyhoeddi y bydd Gerddi Sophia yn cynnal dwy gêm ryngwladol yn 2025.

Bydd Lloegr yn herio India’r Gorllewin mewn gêm undydd ar Fehefin 1 – y tro cyntaf i India’r Gorllewin ddod i wledydd Prydain ar gyfer gêm undydd ers 2017.

Bydd Lloegr yn herio De Affrica mewn gêm ugain pelawd ar Fedi 10, ar ôl chwarae yng Nghymru ddwy flynedd yn ôl.