Ar drothwy’r gêm ddarbi fawr yn erbyn Caerdydd dros y penwythnos, mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cael hwb ar ôl clywed bod eu chwaraewr canol cae Joe Allen yn holliach.

Mae Allen wedi dychwelyd i’r cae ymarfer ar ôl gwella o anaf i’w droed.

“Mae Joe Allen yn ymarfer yn llawn, felly mae e ar gael i’w ddewis,” meddai’r rheolwr.

“Mae’n hwb.

“Rydyn ni i gyd yn hapusach pan fo Joe ar gael i’w ddewis.

“Rydyn ni’n ei garu fe, felly mae’n newyddion gwych.”

Ond dydy’r newyddion am Andy Fisher, Aimar Govea, Sam Parker na Josh Ginnelly ddim cystal, gan nad ydyn nhw’n barod i ddychwelyd wrth iddyn nhw barhau i wella o anafiadau.

Ychwanegiadau i’r garfan

Yn y cyfamser, mae’r Elyrch yn ceisio denu nifer o chwaraewyr newydd cyn i’r ffenest drosglwyddo gau ddiwedd y mis.

Mae lle i gredu eu bod nhw’n agos iawn at ddenu’r amddiffynnwr canol Nelson Abbey a’r asgellwr Florian Bianchini i Stadiwm Swansea.com.

Mae Abbey, sy’n ugain oed, yn chwarae i Olympiakos yng Ngroeg ar hyn o bryd ond fe allai’r Elyrch ei ddenu ar fenthyg am dymor cyfan pe bai’n pasio prawf meddygol.

Mae disgwyl i Bianchini symud i Abertawe’n barhaol o Bastia.

“Mae nifer o chwaraewyr rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n ymuno â ni’n fuan iawn, a byddwn ni’n gallu cyflwyno’r bois hynny yn y dyfodol agos iawn,” meddai Luke Williams.

“Rydyn ni jest eisiau sicrhau bod y profion meddygol yn mynd yn iawn, ond mae’n newyddion da iawn i ni.”

Yn y cyfamser, mae Mark McGuinness wedi gadael Caerdydd ar drothwy’r gêm ddarbi, ac wedi ymuno â Luton, lle bydd yn cyd-chwarae â Liam Walsh, un oedd wedi gadael Abertawe cyn dechrau’r tymor hwn.